Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Nid wyf yn cymryd arnaf," ebe Enoc, "fod yn ddadleuwr, yn enwedig gyda gŵr dysgedig fel Mr. Simon. Ond yr wyf yn meddwl y gallaf ateb yr wrthddadl i'm bodlonrwydd fy hun. Os ydwyf yn deall dysgeidiaeth y Testament Newydd—yn enwedig dysgeidiaeth Iesu Grist ei hun, nid oes dim y mae Ef yn rhoi mwy o bwys arno na hunanymwadiad a hunanaberthiad. Yr oedd yn ei ddysgu i eraill, ac yn ei gario allan yn ei fywyd ei hun. Nid beth yr oedd ganddo hawl iddo, neu ryddid i'w wneud, oedd cwestiwn mawr Iesu Grist, ond beth oedd ei ddyletswydd. Yr oedd ganddo Ef hawl i barch a chysuron pennaf y byd—yr oedd ganddo hawl i fyw, os bu hawl gan neb erioed. Ac eto, er mwyn eraill, yr oedd Ef yn mynd i gyfarfod croesau, ac yn rhoddi ei einioes i lawr. Ac, erbyn meddwl, mor rhyfedd, yr Un oedd yn meddu'r rhyddid mwyaf—rhyddid na feddai neb arall ei gyffelyb—rhyw unwaith neu ddwy y mae yn sôn amdano—ond y mae'n sôn yn feunyddiol am y rheolau ddyweda i ddim 'mân reolau '—yr oedd wedi eu gosod arno ei hun. Ac os nad ydyw Teyrnas Nefoedd fwyd a diod, eglur yw nad ydyw ymarfer â'r diodydd meddwol yn rhan ohoni. Ac yr wyf yn meddwl y gellir dyfod â rhesymau cryfach o lawer dros ——."

"Mr. Huws," ebe'r Capten, "esgusodwch fi. Yr ydym erbyn hyn yn ddigon o gyfeillion i mi gymryd hyfdra arnoch. Mae o'n taro i'm meddwl i mai tipyn o bad taste ynof oedd cyffwrdd â'r cwestiwn dirwestol, yn enwedig ar achlysur fel hwn, ac yr wyf yn meddwl mai'r peth gorau y gallwn 'i wneud, wedi i Mr. Denman ddweud just un gair ar y ddadl fel diweddglo, ydyw troi'r ymddiddan at rywbeth arall. Yrwan, Mr. Denman."

"Yr wyf wedi sylwi," ebe Mr. Denman, "fod merched, hynny ydyw, merched o'r dosbarth gore, yn cael eu harwain megis gan reddf i benderfynu cwestiynau amheus—cwestiynau y bydd dynion yn ymddrysu uwch eu pennau. Mi rof y cwestiwn mewn ffurf ymarferol, gan apelio at Miss Trefor. Yn awr, Miss Trefor, golygwch