chi'n gryno efo'ch gilydd fel teulu,—mae Rhagluniaeth wedi bod yn dda wrth Capten Trefor,—nid oes gennych le i bryderu am eich amgylchiadau, beth bynnag a ddaw o'r gymdogaeth hon, ac nid oes gennych le i ame daioni Duw yn y dyfodol."
"'Dyden ni ddim wedi byw fel y dylasen ni, Mr. Huws," ebe Mrs. Trefor, "a mae gen i eisio cael deud rhwbeth wrthoch. Mi wn ych bod chi yn ddyn da a chrefyddol. Ac am yr amgylchiade, wel, fe ddaw amgylchiade pawb i'r golwg yn hwyr neu hwyrach. Mae o wedi costio llawer o boen a gofid i mi'n ddiweddar wrth feddwl i mi fod am flynydde yn rhoi rhw bris mawr ar y peth y mae nhw'n 'i alw'n yn respectability—rhw feddwl ein bod ni'n well na phobol erill. Ond 'rydw i'n credu, Mr. Huws, fod Duw wedi madde i mi'r ffolineb, a fedra i byth ddiolch digon fod Susi wedi cael gras i ddiystyru'r lol ddaru mi ddysgu iddi. O diar! O diar! mae gen i gwilydd na wn i ddim be i'w neud wrth feddwl mor wirion fûm i. Wyddoch chi be, mae gen i ofn 'y mod i un amser yn meddwl cymin am fod yn respectable fel bydase'r Gwaredwr Mawr yn dwad i'r byd fel y bu o'r blaen, y buaswn i'n rhy respectable i onio 'mod i'n perthyn iddo. Oes wir. Ond mi gefes drugaredd, 'rydw i'n meddwl. A Susi, yr eneth 'roeddwn i wedi pwnio 'run syniade i'w phen hi, fu'n offeryn i 'nwyn i weld fy ffolineb. Mor fychin ydi'n pethau ni wrth edrach arnyn nhw o ymyl angau.'
Bychain yden ni ein hunain, bawb ohonom, Mrs. Trefor," ebe Enoc, "a mi fyddaf yn meddwl bod Duw yn edrach gyda thosturi maddeugar arnom pan fyddwn yn rhoi pris mor fawr ar bethe mor fychain. Mae Ef yn cofio mai llwch yden ni."
"Ie, ie, Mr. Huws, ond llwch aur a gostiodd waed y Meichiau mawr rhag iddo fynd ar goll. Pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? Weles i 'rioed gymaint o werth bod yn gadwedig ag yr ydw i'n 'i weld heddiw, a 'rydw i'n synnu 'y mod i wedi meddwl cyn lleied am