Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Quite right," ebe'r Capten. "Dyna fo, Sarah, mae Susi wedi dweud y newydd da i chi mewn un gair."

Yr oedd Mrs. Trefor wedi clywed gynifer o weithiau yn ystod ei hoes am "daro ar y faen," fel na ddarfu i'r newydd effeithio rhyw lawer arni, a'r unig beth a ddywedodd oedd, "Ho!"

Cododd Enoc i ffarwelio â Mrs. Trefor, ac i fyned adref. Aeth Miss Trefor i'w ddanfon, gan adael ei thad i ymehangu ar y newydd da i'w mam. Ond nid dyna oedd y peth pwysicaf a fu y noson honno.