Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/249

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XXXVI

Capten Trefor

WEDI i'r Capten ac Enoc gyrraedd y ffordd fawr, ebe'r blaenaf:

"Yr wyf yn cofio, Mr. Huws, pan oeddwn dipyn iau nag wyf yn awr, y byddwn yn cael difyrrwch nid bychan wrth gerdded allan yn nhrymder y nos ar fy mhen fy hun, pan fyddai trwst y byd a masnach wedi distewi, a dim yn bod, mewn ffordd o siarad, i aflonyddu ar fy myfyrdodau. I un o duedd fyfyrgar, fel fy hunan, mewn ffordd o siarad, nid oes dim yn fwy hyfryd i'r teimlad, nac, yn wir, yn fwy llesol i'r enaid, na thro wedi bo nos, pryd y gall dyn, mewn dull o ddweud, ymddiosg oddi wrth bob gofalon a thrafferthion bydol ac ymollwng, megis, i gymundeb â natur fel y mae, yn ôl fy syniad i, yn fwy impressive yn y nos,—nid oes gair Cymraeg yn 'i gynnig ei hun i mi ar y foment—yn fwy impressive, meddaf. Hynny ydyw, mi fyddaf yn meddwl—hwyrach fy mod yn camgymryd ond yr wyf yn wastad yn agored i gael f'argyhoeddi mi fyddaf yn meddwl, meddaf, fod yn haws yn y nos, yn enwedig ar noson dawel fel heno, i'r ysbryd, megis yn ddiarwybod, ymlithro i fyfyrdod ar bethau ysbrydol a thragwyddol. Y ffaith ydyw, Mr. Huws, mae fy meddwl, fel y gwyddoch, wedi ei gymryd i fyny mor llwyr, yn ddiweddar, gyda phethau daearol a darfodedig, fel yr wyf yn teimlo angen mewnol, a hwnnw yn ddwfn, am seibiant, pe na byddai ond hanner awr, i ymollwng, fel y dwedais, i fyfyrdodau cwbl wahanol o ran eu natur, ac yn fwy felly, yn gymaint â'm bod, fel y gwyddoch, newydd ddyfod oddi wrth glaf wely fy ngwraig, a'm bod, i ryw raddau, o leiaf, wedi fy nwyn i deimlo gwagedd pethau'r byd a'r bywyd hwn, hynny ydyw, o'u cymharu â phethau tragwyddol. Ar adegau, Mr. Huws, mi fyddaf yn meddwl—oni bai fod yr hen fyd yma wedi bod mor greulon wrthyf, a chymryd, bron, fy holl amser, er bod yn rhaid i rywrai fod gyda'r