Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Sul, ac ychydig fu'n fwy llwyddiannus nag ef i gael athraw- on ar ddosbarthiadau. Yr oedd rhywbeth mor ddymunol yn ei wyneb fel na feiddiai neb ei wrthod. Credid fod Enoc yn gyfoethog, a dyweder a fynner, y mae i gyfoeth lawer o fanteision. Nid y lleiaf yw bod yn anos i'w berchen gyfarfod ag anufudd-dod. Byddai Pitar Jones, y crydd, yr arolygwr arall, er ei fod yn alluocach dyn, ac yn un o farn addfetach, yn methu'n glir yn fynych â chael athro ar ddosbarth, ond nid oedd gan bobl nerf i wrthod Enoc. Mynych y teimlodd Pitar i'r byw, ond yr oedd yn anghofio'r gwahaniaeth oedd yn ei sefyllfa. fydol, a'r ymwybyddiaeth ym meddyliau pobl, na wyddent pa mor fuan y byddai arnynt angen am gynhorthwy Enoc Huws.

Gallesid meddwl nad oedd dim yn fyr yn amgylchiadau Enoc Huws at ei wneud yn ddyn dedwydd. Ond cyn lleied a wyddom am ddirgel ddyn calon ein gilydd. Yr oedd syniad Enoc Huws amdano ei hun mor wylaidd, a'i duedd mor ddi-uchelgais, fel nad oedd swydd na pharch yn cyfrannu ond ychydig, os dim, at ei ddedwyddwch. Dyn sengl ydoedd, ac yn hynny yn unig yr oedd llu o ofidiau a phrofedigaethau na chyfaddefir monynt gan hen lanciau ond pan fônt yn adrodd eu profiad y naill i'r llall. Ond, hyd yn oed yn y wedd honno, nid ysgafnha- odd Enoc ddim ar ei fynwes. Cadwodd ei holl gyfrinach iddo'i hun. Yng ngwaelod ei galon diystyrai'r syniad ei fod yn perthyn o gwbl i'r clwb, ond nid oedd ganddo'r gwroldeb y dynoldeb-i'w ddiaelodi ei hun. Paham? Oherwydd ei fod wedi gosod ei serch yn rhy uchel ar wrthrych anghyraeddadwy. Unig ferch ydoedd hi i'r Capten Trefor, Ty'n yr Ardd, a hwyrach mai yma y dylwn ddwyn teulu Ty'n yr Ardd i sylw.