i chi'ch hun. Ond chwi wyddoch, Mr. Huws, fel y mae gan foch bychain glustiau mawr, felly y mae gan rai bankers bychain lygaid mawr; ond fel y mae fwyaf cyfleus i chwi."
"'Rwyf yn meddwl y gallaf eu rhoi i chi mewn notes," ebe Enoc.
"Very good," ebe'r Capten, "ond arhoswch—ydech chi ddim yn peri rhyw anghyfleustra i chwi'ch hun wrth wneud hynny?"
"Dim o gwbl," ebe Enoc wrth fynd i'r offis i gyrchu'r nodau, a thra bu ef yn yr offis edrychai'r Capten yn foddhaus i'r tân—hynny o dân oedd yno, gan chwibanu yn isel yr hen dôn "Diniweidrwydd."
Daeth Enoc yn ôl gyda'r papurau, gan eu gosod bob yn un ac un ar y bwrdd, a chymerodd y Capten hwynt yn rasol, gan eu dodi yn ofalus yn ei logell—lyfr.
"Diolch i chwi, syr," meddai, "os byddwch mor garedig â rhoi i mi fymryn o bapur a phin ac inc, mi roddaf i chwi gydnabyddiaeth amdanynt, Mr. Huws."
"Na hidiwch," ebe Enoc.
"Na, syr, busnes ydyw busnes," ebe'r Capten, "er, rhaid cyfaddef, nad ydyw peth felly ond amddiffyniad i ddyn gonest rhag ystrywiau dyn anonest, ac nid ydyw'n anhepgor, mewn ffordd o siarad, rhwng pobl o gymeriad. Ar yr un pryd,—wel, mi gofiaf am y peth yfory. Ac yn awr, Mr. Huws, wrth edrych ar y cloc yna mae'r gair hwnnw'n dwad i'm meddwl,—tempus fugit, ac er mwyn cadw gweddusrwydd, mae'n rhaid i mi ddychwelyd, er y buasai yn dda gennyf gael parhau'r gymdeithas."
"A gaf i ddwad i'ch danfon adre, syr," gofynnai Enoc.
"Na chewch, Mr. Huws," ebe'r Capten, "nid am na fuasai'n dda gennyf am eich cwmni, ond chwi wyddoch, yn ein hamgylchiadau presennol, pe deuech, mai llithro a wnaem i ymddiddan am v byd a'i bethau, ac y mae