'Roedd Lloyd yn cychwyn i'w wely, achos yr oedd gole yn ffenest y llofft. 'Doeddwn i ddim yn gallu gweled pwy oedd yn curo, ond fe aeth i mewn, ac mi feddylies y mynnwn i wybod pwy oedd o. Fu o ddim i mewn yr un pum munud, a phwy oedd o ond y Capten. 'Roedd yn reit dda ganddo 'ngweld i, a mi es i'w ddanfon o adre. Mae'r hen ŵr yn torri,—'roedd o'n cerdded yn simsan heno. Ond be allase fod arno 'i eisiau gan yr hen Lloyd yr adeg yma ar y nos, os gwn i?"
"Rhyw fusnes, mae'n debyg," ebe Enoc yn fyfyrgar.
"Felly 'roedd o'n deud," ebe Jones, ac wrth weled Enoc yn edrych yn lled syn, ychwanegodd,—" A 'does gynnoch chi ddim idea, Mr. Huws?"
"Ddim o gwbl," ebe Enoc, a meddyliai fod Jones, ar cyn lleied o gydnabyddiaeth, dipyn yn wynebgaled ac ymholgar.
"Hy," ebe Jones, ac ar ôl ychydig ddistawrwydd, ebe fe," Wyddoch chi be, Mr. Huws, 'dydw i ddim yn meddwl bod y Capten mor dda arno ag y mae pobl yn credu ei fod."
"Be sy'n peri i chi feddwl hynny?" gofynnai Enoc. "Wel," ebe Jones, "fedra i ddim deud wrthoch chi'n iawn, rywsut, ond be ydech chi'n feddwl am hynny, Mr. Huws?"
("Wel, y gwynebgaled," ebe Enoc ynddo ei hun, ac ychwanegodd yn hyglyw):
"Mae sefyllfa fydol Capten Trefor yn ddieithr hollol i mi, a 'dydi o ddim llawer o bwys gen i beth ydi ei sefyllfa—pa un ai cyfoethog ai tlawd."
"A!" ebe Jones, "mae hi'n debyg arw i law. Prin y galla i'ch coelio chi 'rwan, Mr. Huws.'
"Pam?" gofynnai Enoc.
"Oherwydd," ebe Jones, "fod pobol yn gallach 'rwan nag y bydden nhw ers talwm. Mi briodes i pan oeddwn i'n dair ar hugen oed, a mi briodes eneth dlawd. Bydaswn i wedi cymryd 'mynedd, yr un faint o drafferth a fase i mi briodi geneth â dwy neu dair mil o bunne ganddi—