yn ôl fy syniad i. Anffawd ac nid drwg ydyw tlodi, a damwain ydyw cyfoeth, ac ni all y naill na'r llall dynnu rhyw lawer oddi wrth nac ychwanegu at wir werth geneth brydferth a rhinweddol. Dyna 'meddwl i, Mr. Jones."
"'Rydech chi'n mynd y tu hwnt i mi 'rwan, Mr. Huws," ebe Jones, "wn i fawr am bethau fel yna. Ond fasech ch.'n synnu pe deudwn i wrthoch 'i bod hi'n galed ar y Capten?"
"Baswn, wrth gwrs," ebe Enoc.
"Be ddeudech chi pe dwedwn i fod y Capten wedi derbyn gwrit am bum punt ar hugain?" gofynnai Jones.
"Mi ddwedwn fod rhywun wedi dweud celwydd wrthoch," ebe Enoc.
"Be bydawn i'n deud fy mod yn gwybod bod hynny'n wir?" gofynnai Jones.
"Mi ddwedwn," ebe Enoc, "'y mod innau'n gwybod nad ydyw'r Capten heno yn fyr o ddau na thri phum punt ar hugain. Mae rhyw gamgymeriad yn bod, Mr. Jones.'
"Nac oes, syr, ddim camgymeriad. Ac os oedd gan y Capten ddau bum punt ar hugian, mi wn ei fod wedi partio â'u hanner nhw heno," ebe Jones.
Gwenodd Enoc, a dywedodd ynddo ei hun:
Y maen nhw'n dlawd wedi'r cwbl, a diolch am hynny."
"Yr oeddwn yn meddwl," ebe Jones, "ei bod yn ddyletswydd arnaf, fel cyfaill, ddweud hyn wrthoch, Mr. Huws, achos peth garw i chi fyddai cael cam gwag, a bydaswn i yn ych lle chi, mi faswn yn gneud fy hun yn conspicuous by my absence yn Nhŷ'n yr Ardd. 'Dydw i ddim yn ame na wnân' nhw 'u gore i'ch cael chi i'r trap i briodi'r ferch yna, ond bad look out fyddai hi i chi, Mr. Huws."
"'Dydi'r ffaith," ebe Enoc, "os ffaith ydyw, fod y Capten wedi cael gwrit ddim yn profi ei fod yn dlawd. Dyn od ydi'r Capten, a hwyrach ei fod wedi cymryd yn