Ond ychydig o gysur a allai ef ei dynnu o'r pennill; ac er iddo ymweled yn fynych yn y dyddiau dilynol â Thŷ'n yr Ardd, methodd yn lân â chael cyfleustra i siarad â Miss Trefor, ac egluro pethau iddi. Yr oedd gwaeledd mawr Mrs. Trefor yn rhwystr beunyddiol i Enoc hyd yn oed gael cip ar yr un a garai mor fawr. Aeth pythefnos heibio heb arwydd gwella yn ystad iechyd Mrs. Trefor, —pythefnos oedd cyhyd â blwyddyn yng ngolwg Enoc, yn gymaint â'i fod wedi ei amddifadu'n hollol o gymdeithas ei Forfudd. Gallasai oddef hyn yn lled lew oni bai'r ymwybod oedd ynddo bob awr o'r dydd a'r nos fod Susi yn coleddu teimladau angharedig tuag ato, a hynny wedi gwreiddio'n gwbl mewn camddealltwriaeth.
Er bod Marged yn hynod gyweithas a mwyn yn y rhagolwg ar ei phriodas, oedd i ddigwydd ymhen ychydig ddyddiau, ni allai Enoc fwyta na chysgu. Canfyddai Marged fod rhywbeth mawr yn blino'i meistr, ac ni allai ddychmygu bod dim yn rhoi cyfrif am hyn ond ei bod hi ar fedr ei adael, a mynych y dywedodd hi wrth ei weled yn methu bwyta: "Peidiwch â fecsio, mistar, mi gewch gystal morwyn â minne o rywle." Wn i ddim," oedd unig ateb Enoc. Yr oedd trueni Enoc mor fawr arno, fel na allai ddal yn hwy, ac ysgrifennodd at Miss Trefor i grefu arni am ychydig funudau o ymddiddan â hi ar fater pwysig. Er ei bod wedi cymryd arni ddigio'n enbyd wrtho, meddyliodd Miss Trefor, pan dderbyniodd nodyn Enoc, fod ei thad mewn rhyw drybini, ac mai ynfydrwydd fuasai ei niweidio drwy ymddangos yn ystyfnig gydag Enoc. Pennodd amser i Enoc ymweled â hi—sef. prynhawn drannoeth. Wedi cael y caniatâd, ni wnaeth Enoc ddim ond cyfansoddi yn ei feddwl eglurhad cyflawn ar yr hyn a ddywedasai wrthi bythefnos yn ôl. Cyfansoddodd ddatganiad eglur, cryno, ac effeithiol o'i deimladau tuag ati, ac aeth drosto gannoedd o weithiau, nes oedd yn ei fedru yn well na'i bader. Ond pan ddaeth yr amser, a phan ddaeth wyneb yn wyneb â Miss Trefor ym mharlwr Ty'n yr Ardd, ar ôl yr hir ddirwest o