Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD V

"Sus."

FEL y dywedwyd eisoes, gwraig ddiniwed oedd Mrs. Trefor; ac yn eithaf naturiol a phriodol hyhi, o bawb, a edmygai ei gŵr fwyaf. Ni byddai hi byth yn croesi'r Capten; ac yr oedd yntau yn hynod o fwyn tuag ati. Credai Mrs. Trefor fod dedwyddwch hanner yr hil ddynol yn dibynnu ar ei gŵr, ac ni ddidwyllodd yntau moni erioed, na'i blino mewn modd yn y byd â manylion ei amgylchiadau a'i amrywiol ofalon. Yn wir, yr oedd ar Mrs. Trefor arswyd rhag i'r Capten ddatguddio iddi gyfrinach a phwysigrwydd ei safle gymdeithasol, rhag y buasai hynny'n peri iddi ei edmygu yn ormodol a pheri iddi anghofio Duw. Gwyddai Mrs. Trefor fod y Capten yn ŵr digyffelyb, a bod bywoliaeth ardal o bobl yn dibynnu ar ei air, a chredai hefyd fod yn y Capten ogoniant y tu hwnt i hynny na wyddai hi ddim amdano, ac na fuasai'n lles i'w henaid ei wybod chwaith. Nid oedd ganddi hi un syniad am faint ei gyfoeth—ond yn unig y gallai hi dynnu'n ddiderfyn oddi arno.

Digon gan Mrs. Trefor oedd fod enw y Capten yn dda ym mhob siop yn y dref. Y peth a barai nid ychydig o bryder i Mrs. Trefor ar hyd y blynyddoedd oedd ei hofn i amrywiol ofalon y Capten, a'i waith yn astudio geology mor galed, beri i'w synnwyr yn y man ddrysu, oblegid nid oedd y Capten, wedi'r cwbl, ond dyn. Yr unig ffordd, neu o leiaf, y ffordd fwyaf hwylus, dybiai hi, y gallai hi fod yn wraig deilwng o'r Capten, a chadw urddas ei gŵr, oedd drwy ymwisgo orau fyth y gallai. Yn wir, yr oedd hi wedi arfer gwneud hynny pryd nad oedd ganddi foddion cyfartal i'w dymuniadau, ond yn awr, nid oedd cythlwng ar ddeisyfiad ei llygaid. Eto yr oedd Mrs. Trefor yn grefyddol, a gadewch i ni obeithio, yn dduwiol hefyd. Nid oedd neb ffyddlonach na hi ym moddion gras. Yr oedd hi yn un o aristocracy Ymneilltuaeth, y rhai sy'n