cynorthwyo. 'Does gynnon ni ddim modd i fynd i lawer o gostau."
"Dim modd?" ebe'r Capten, "beth ydech chi'n 'i feddwl, Susi? Dim modd? fe gaiff eich mam ei chladdu fel tywysoges, os bydd fy llygaid i yn agored. Ond nid ydyw'n weddus i ni fynd i gerdded at hwn ac arall—ac fe wna Mr. Huws hynny drosom, yn ôl ei garedigrwydd arferol."
"Gadewch y cwbl i mi, mi ofalaf am yr holl drefniadau angenrheidiol," ebe Enoc.
Ar hyn daeth Kit at y drws, a chododd ei bys ar Miss Trefor, a gadawodd hithau'r ystafell.
Ac ebe Enoc: "Capten Trefor, yr wyf am ofyn un gymwynas gennych, ac yr wyf yn gobeithio na wnewch fy ngomedd. Chwi wyddoch fod Mrs. Trefor a minnau'n gyfeillion mawr—yr oeddwn yn edrych arni fel pe buasai'n fam i mi. A wnewch chwi ganiatáu i mi—peidiwch â digio am fy mod yn gofyn y fath beth—wneud yr holl drefniadau ar gyfer y gladdedigaeth, a dwyn yr holl gost? Bydd yn dda gennyf gael gwneud hynny os caniatewch."
"Diolch i chwi, Mr. Huws," ebe'r Capten, "ond y mae hynny'n amhosibl, oblegid byddech felly yn cymryd oddi arnaf y fraint olaf. Fedrwn i ddim meddwl am i neb wneud y fath beth, o leiaf, heb ymgynghori â'm merch, a mi wn y byddai hi yr un mor wrthwynebol—yn wir yn fwy gwrthwynebol."
"Yr oeddwn wedi meddwl gofyn i chwi," ebe Enoc, pe buasech yn caniatáu, beidio â sôn gair wrth Miss Trefor nac wrth neb arall am y peth, ac ystyriwn hi'n fraint gael gwneud hyn i Mrs. Trefor. Gobeithio nad wyf wedi'ch briwio, ond mi ddymunwn gael gwneud hyn."
"Wel," ebe'r Capten, ac arhosodd am funud megis i synfyfyrio, "pe buasai rhywun arall, ie, hyd yn oed Syr Watcyn, yn cynnig y fath beth, mi fuaswn yn dweud, 'No, thank you.' Ond wrth gofio'r fath gyfeillgarwch