Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/326

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddo ac i guro ei gefn, ac yn gofalu, fel yr oedd yn briodol iddo wneud, am ei ddwyn allan yn fuddugoliaethwr yn y diwedd. Mae'n ddiamau mai'r "diwedd " hwn a hoffai Thomas Bartley. Mae'n amheus ai doeth yn Mr. Simon oedd sôn cymaint am wrthddadleuon anghredwyr wrth bobl Bethel, canys ni wyddai un o bob hanner cant ohonynt fod y fath wrthddadleuon wedi bod yn blino ymennydd neb erioed. Ond wedi clywed Mr. Simon yn eu traethu, dechreuodd rhai o'r ieuenctid—yn ôl tuedd lygredig y galon ddynol—eu coleddu a'u hanwesu. A digrif ddigon oedd clywed ambell ysgogyn pendew, na ddarllenasai gan tudalen o lyfr yn ei fywyd, yn cymryd arno fod yn dipyn o anghredwr, ac yn defnyddio geiriau a thermau na wyddai tu nesaf i lidiart y mynydd, mewn gwirionedd, beth ydoedd eu hystyr! Gyda'r amcanion gorau, yn ddiamau, yr oedd Mr. Simon wedi arfer ei holl ddawn i berswadio gwŷr ieuainc Bethel i beidio â darllen y llyfr yma a'r llyfr acw. Nid oeddynt, cyn hynny, erioed wedi clywed hyd yn oed enwau'r llyfrau, ac aeth dau neu dri ohonynt ar eu hunion i ymofyn amdanynt.

Daliai Didymus fod anerchiadau a chynghorion Mr. Simon i'r ieuenctid y moddion mwyaf effeithiol y gallai ef ddychmygu amdanynt i ddwyn oddi amgylch y canlyniadau gwrthgyferbyniol i'r rhai a ddymunid, a'i fod yn ei atgofio am yr ysgolfeistr hwnnw, cyn gollwng y plant o'r ysgol un prynhawn, a ddywedodd wrthynt: Blant, mae arnaf eisiau rhoi cyngor i chwi, ac yr wyf yn gobeithio y gwrandewch arnaf ac ufuddhau, a dyma fo: Cymerwch ofal wrth fynd adref o'r ysgol i beidio â rhoi cerrig mân yng nghlustiau'r mulod a welwch yn pori ar ochr y ffordd. Mae'r fath beth yn greulon, ac yn greulon iawn, a gofalwch na chlywaf fod neb ohonoch yn euog o'r fath weithred ysgeler." Ni chlywsai'r plant erioed cyn hynny am y tric, a'r mul cyntaf a welsant ar y ffordd wrth fynd o'r ysgol, llanwasant ei glustiau â