Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/330

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XLV

Y Gohebydd

AR adegau neilltuol—adegau â thipyn o bwys ynddynt——. arferai Didymus ymweled â Dafydd Dafis. Ac nid anfuddiol fyddai'r ymweliadau hyn i'r ddau fel ei gilydd, oblegid yr oedd angen ar Dafydd am ysbardun, ac angen, weithiau, ar Didymus am ffrwyn. Câi Didymus fwy o les oddi wrth Dafydd nag a gâi Dafydd oddi wrtho ef. Fel gohebydd i'r newyddiadur—canys dyna oedd ei brif orchwyl—tueddai Didymus, fel ei frodyr yn gyffredin, i redeg i ormod rhysedd—gorliwio pethau—penderfynu pethau dyrys—pethau y byddai gwŷr pwyllog yn petruso yn eu cylch—a thraethu ei syniadau braidd yn oraclaidd ac awdurdodol. Lawer tro pan fyddai ar fin ysgrifennu adroddiad am ryw gyfarfod neu ddigwydd—iad, a'i feddwl yn llawn o frawddegau cyrhaeddgar ar hanner eu ffurfio, a phan fyddai'n dyfeisio sut "'i'w rhoi hi" i hwn neu arall, y bu ymgom â Dafydd Dafis yn foddion effeithiol i liniaru a chymesuro'r cwbl, ac weithiau i beri iddo daflu'r cyfan, fel y taflwyd Jonas, dros y bwrdd i'r môr.

Yr oedd cyfarfod ymadawol Mr. Simon yn "ddigwyddiad" yn Bethel, ac yn gyfleustra rhagorol, fel y tybiai Didymus, iddo ef fwrw golwg dros ei arhosiad yn ein plith, a heblaw y byddai i hynny lenwi tair colofn o'r County Chronicle, am yr hyn y câi dâl gweddol, y byddai hefyd yn fantais iddo yntau gael dweud ei feddwl ar bregethu a phregethwyr, ac ar hyn a'r llall oedd wedi bod yn cronni yn ei fynwes ers tro. Ond cyn ei arllwys ei hun ar bapur, da, yn ddiamau, y gwnaeth Didymus ymweled â Dafydd Dafis. Ac ebe Dafydd:

"Roeddwn i braidd yn ych disgwyl chi yma heno, Thomas, a mae'n dda gen i'ch bod chi wedi dyfod. 'Rydw i wedi bod yn meddwl llawer heddiw be ddeudech chi, tybed, yn y papur newydd am y cyfarfod neithiwr, achos mi wn y disgwylir i chi, yn ôl ych swydd, ddeud