"Un garw ydech chi, Thomas, ond ydech chi'n meddwl ych bod chi'n gneud yn iawn, deudwch?" gofynnai Dafydd.
"Yn hollol iawn," ebe Didymus. A mae hi 'run fath yn union, wyddoch, yn y Board of Guardians. Dyna'r hen Lwyd, Wern Olau, yr wyf yn ei gofio un tro yn gwneud cais at speech, ac fel hyn y dechreuodd: Mistir Cheerman, I did remember when I am a boy,' etc. Ni buasai'n gwneud y tro i mi adrodd peth fel yna, wyddoch, yn y papur, a'r ffordd y reportiais i o oedd: Mr. Chairman, the subject now under discussion forcibly reminds me of my boyhood, etc., a mi roddais lafnes o speech iddo na thraddodwyd moni erioed. Ac yn y Board diweddaf, mi gymra fy llw, yr unig beth a ddywedodd yr hen Lwyd oedd: I beg to second resolution,' a mi chwysodd yn ddiferol wrth ddweud hynny, ond mi roddais dipyn o speech deidi iddo yn y Chronicle, achos mi wyddwn y buasai hynny yn ei foddio. A bydaswn i yn marw fedrwn i ddim peidio â gwenu pan gyfarfûm â'r hen Lwyd yn y ffair. Meddai, ac yn torsythu yn enbyd: Wyddoch chi be, Thomas, mi ddaruch roi port clên iawn o'r Bord y Gardians dwaetha—mi ddaru'ch ddeud bron air am air be oeddwn i wedi ddeud. Pryd y dowch chi acw i gael tamed o swper, deudwch?' Yr oedd hi yn andros o job cadw wyneb sobr wrth ddweud wrtho na allwn fynd i'r Wern Olau yr wythnos honno. A chyn sicred â'ch bod chi'n eistedd yn y gader yna dyma i mi chwiaden o'r Wern Olau bore drannoeth."
"Wel, 'chlywes 'r fath beth yn 'y mywyd," ebe Dafydd. "Ond deudwch i mi be fydd yr aelodau eraill yn 'i ddeud wrth ddarllen yn y papur am yr hen Lwyd wedi bod yn areithio?
Dim ar affeth hon y ddaear! Achos hwy wyddant i gyd bydawn i yn reportio areithiau'r rhai gore ohonynt fel y maent yn eu traddodi mai llun rhyfedd fyddai arnynt. Mae rhyw fath o Free Masonry yn eu plith—peidiwch chi â deud arna i ddeuda innau ddim arnoch