ddwylo blewog, 'chreda i byth mo hynny. Mae cannoedd o forynion, druain, yn cael cam dybryd. Pan fydd y sbrigyn mab wedi ponio ei gold studs i gael diod, O! y forwyn fydd wedi eu lladrata! Pan fydd y ferch wedi colli ei brooch neu ei chyffs, wrth galifantio, ac na wiw iddi ddweud wrth ei mam, y forwyn, druan, fydd wedi eu dwyn! Y forwyn ydyw bwch dihangol y teulu! Yr Humbugs! Mae Miss Bifan yn eneth splendid, Mr. Jones, y mae'r tŷ yma fel nefoedd o'i gymharu â phan oedd Marged yma."
Gwrandawai'r Plismon ar Enoc yn ddistaw, gan edmygu ei ysbryd ffyddiog a difeddwlddrwg, ond wrth edrych yn graff y tu draw i'w lygaid, gallesid darllen ei feddwl—"When ignorance is bliss 'tis folly to be wise."
Yr oedd dedwyddwch ei gartref, yn ddiamau, yn rhoddi cyfrif i ryw raddau am sirioldeb Enoc. Ond petai yn ei gartref yn unig y buasai ei ddedwyddwch yn gynwysedig, prin y buasai'n absennol oddi yno hyd un ar ddeg o'r gloch o'r nos, bedair neu bum noswaith yn yr wythnos. Rhaid bod Enoc yn cael rhyw gymaint o ddifyrrwch yn Nhŷ'n yr Ardd i fod yno mor aml. Ac nid oedd Coed Madog—nad oedd erbyn hyn yn rhoi gwaith ond i ychydig o ddynion—yn galw ar Enoc i ymgynghori â Chapten Trefor amryw weithiau yn ystod yr wythnos. A hyd yn oed, pe buasai ef yn ystyried bod hynny'n angenrheidiol, nid oedd y Capten, yn ddiweddar, ar gael yn Nhŷ'n yr Ardd bob noswaith o'r wythnos. Toc wedi marw Mrs. Trefor, yr oedd y Capten wedi dechrau myned i'r Brown Cow ar nosweithiau canol yr wythnos. Tybiai rhai mai'r rheswm am hyn oedd. ei fod, ar ôl colli Mrs. Trefor, yn teimlo'n unig, a'i fod yn cael tipyn o help mewn "cwmni" i fwrw ei hiraeth. Ac efallai fod ganddo amcan arall yn hyn—drwy adael Miss Trefor yn fwy unig, y rhoddai hynny iddi hi fwy o hamdden i ystyried ei sefyllfa a sylweddoli ei cholled, oblegid lled anystyriol ydyw pobl ieuainc yn gyffredin.