Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/342

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi digwydd yn ei bwriadau, mai ei dyletswydd oedd hysbysu ei thad am y cyfnewidiad hwn. Yr oedd yn awr ers amser yn gwylio am gyfleustra i wneud hyn, ond yr oedd y Capten, pan fyddai gartref, yn gyffredin mewn tymer ddrwg, a phan ddychwelai yn hwyr o'r Brown Cow yn rhy swrth iddi feddwl am ddwyn y cwestiwn ymlaen.