y fuwch honno yn ennill gwobr mewn arddangosfa amaethyddol yn ein dyddiau ni, canys yr oedd ei hesgyrn fel pe buasent bron dyfod trwy ei chroen, a'i choesau mor stiff nes argyhoeddi pawb ei bod yn dioddef gan gryd cymalau. Heblaw hynny, yr oedd toreth o gyrls ar ei thalcen nes peri iddi ymddangos yn debycach i'w gŵr nag iddi hi ei hun. Ac eto mae'n rhaid bod rhyw swyngyfaredd yn perthyn i'r fuwch honno, oblegid y mae hanes ar gael i ŵr a gadwai'r dafarn un tro gymryd yn ei ben dynnu'r fuwch i lawr a gosod yn ei lle "Y Ceffyl Glas." Ymhen y pythefnos collodd ei holl fusnes, a bu raid iddo ail osod yr hen fuwch uwchben y drws, a dychwelodd y busnes, ac y mae'r tŷ 'n llwyddiannus hyd y dydd hwn. Yn y Brown Cow yr oedd dwy ystafell yn y ffrynt, a dwy yn y cefn. Ar yr ochr chwith wrth fyned i mewn yr oedd ystafell yr ysbrydion, neu'r bar. Ar yr ochr dde yr oedd y gegin fawr. Ar un ochr i'r ystafell hon yr oedd dreser dderw fawr, na wyddai neb ei hoedran, ac arni blatiau piwtar gloyw gwerthfawr, a edrychai yn urddasol ar noswaith aeaf, pan fyddai tân mawr yn y grât ar eu cyfer. Ar yr ochr arall yr oedd mainc lydan a chefn iddi yn rhedeg gyda'r wal, ac ar y drydedd ochr, yn lled agos i'r tân, yr oedd setl uchel, ac arni le i bedwar neu bump eistedd. Heblaw bwrdd mawr cadarn ar ganol y llawr, nid oedd nemor ychwaneg o ddodrefn yn yr ystafell hon. Mae'n wir bod gwn dau faril ar un o'r distiau, ac yn gyffredin, nerobau bacwn a ham neu ddwy ar ddist arall, a hwyrach, wrth ystyried bod cymaint o ysmygu yn yr ystafell, y gellid ei alw yn smoked bacon. Ond prin y gellid galw y pethau a enwid olaf yn ddodrefn. O! ie, yr oedd hefyd ar un o'r muriau ddarlun o'r hen Syr Watcyn, a darlun arall o hela llwynog, ac un o'r marchogion, wrth lamu dros lidiard, wedi syrthio ar ei gefn, a'r ceffyl wedi mynd encyd o ffordd heb farchog, ac yn edrych yn wyllt iawn. Yn y gegin fawr y cyfarfyddai cwsmeriaid cyffredin y Brown Cow—megis y mwynwyr, y
Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/344
Gwedd