Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VII

Dedwyddwch Teuluaidd.

NOSWAITH ym mis Tachwedd ydoedd—noswaith ddigon oer a niwlog, ac yr oedd pobl y frest gaeth â'u trwynau wrth y pentan yn ymladd am eu hanadl, ac, yn ddigon naturiol, yn meddwl mai hwy yn unig oedd mewn trueni y noswaith honno. Ond y mae'r fath beth weithiau ag asthma ar feddwl ac amgylchiadau dyn, pryd na ŵyr i ba le i droi ei ben i gael gwynt.

Wrth fyned heibio i Dŷ'n yr Ardd, preswylfod Capten Trefor, cenfigennai ambell fwynwr tlawd, byr ei anadl, at ei glydwch, a dedwyddwch ei breswylydd. Dywedai ynddo ei hun, "Mae'r Capten yn bwyta'i swper, neu wedi gorffen ei swper, yn smocio ei bibell, ac yn estyn ei draed mewn slipars cochion at ei dân gwresog, a minnau, druan gŵr, yn gorfod gadael fy nheulu a mynd i weithio stem y nos ym Mhwll y Gwynt, bydae yno wynt hefyd. Gwyn fyd y Capten! Ond 'does dim posib i bawb fod yn Gapten, a'r neb a aned i rôt ddaw o byth i bum ceiniog."

Ond pe gwybuasai'r mwynwr y cwbl, mae'n amheus a newidiasai ddwy sefyllfa â'r Capten. Y ffaith oedd, nad oedd y Capten yn bwyta ei swper, nac yn smocio, nac yn estyn ei draed at y tân, ond yn hytrach, yn eistedd wrth ben y bwrdd ac yn ceisio ysgrifennu. Gorffwysai ei ben ar ei law chwith, â'i benelin ar y bwrdd, a daliai ei bin yn segur yn ei law dde, ac ymddangosai ei fod mewn myfyrdod dwfn a phoenus. Yn ei ymyl, ar y bwrdd, yr oedd llestr yn cynnwys Scotch Whisky, ac yr oedd y Capten, yn ystod hanner awr, wedi apelio at y llestr hwn amryw weithiau am help a swcwr. Wrth ben arall y bwrdd yr oedd Mrs. Trefor yn brysur gyda rhyw wnïad— waith, ac mewn cadair esmwyth wrth ei hochr, ac yn ymyl y tân eisteddai Miss Trefor, yn diwyd weithio rhyw gywreinwaith gyda darn o ifori tebyg i bysgodyn bychan,