Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddrysu yn ych synhwyre wrth stydio cimint ar geology. Susi, ewch i nôl y doctor ar unweth!"

"Doctor y felltith!" ebe'r Capten yn wyllt, "be sy arnoch chi, wraig? Ydech chi'n meddwl mai ffŵl ydw i? Drysu yn fy synhwyre yn wir! fe ddrysodd ambell un ar lai o achos."

Ac yr ydech chi wedi drysu, ynte, Richard bach? Wel, wel, be 'nawn ni 'rwan! Susi, ewch i nôl y doctor yn y munud!" ebe Mrs. Trefor yn wylofus.

Ac i nôl y doctor yr aethai Miss Trefor y foment honno, oni bai i'r Capten droi pâr o lygaid arni, a barodd iddi arswydo rhag symud, ac a'i hoeliodd wrth y gadair. Ebe'r Capten eilwaith, gan gyfarch ei hanner orau :

"Wyddoch chi be, wraig? mi wyddwn eich bod wedi cysgu'n hwyr pan oedden nhw'n rhannu ymennydd, ond feddyliais i 'rioed fod gennych chi cyn lleied ohono. 'Does fawr beryg i chi ddrysu yn eich synnwyr, oblegid byd a'i gŵyr, 'does gynnoch chi ddim ohono."

"Nag oes, siŵr, nag oes, 'does gen i ddim synnwyr, 'dydw i neb, 'dydw i ddim byd. Dydw i'n dallt dim geology, a mi faswn yn licio gweld y wraig sydd yn dallt geology. 'Rydw i'n cofio amser pan oedd rhwfun, oedd yn cyfri'i hun yn glyfar iawn, yn meddwl bod gen i synnwyr, a 'chawn i ddim llonydd ganddo. Ond rhaid nad oedd gen i ddim synnwyr yr adeg honno, ne faswn i ddim yn gwrando arno fo. A 'does gen i ddim synnwyr yrwan, dim, nag oes dim!" ebe Mrs. Trefor, a dechreuodd wylo, a chuddiodd ei hwyneb yn ei ffedog.

Rhaid bod calon dyn mor galed â maen isaf y felin, onid effeithia dagrau ei wraig arno.

Pa nifer o ymresymiadau anatebadwy a wnaed yn chwilfriw gan ddagrau gwraig? Ac nid oedd hyd yn oed Capten Trefor yn anorchfygol o flaen dagrau ei wraig, yn enwedig pan ddaeth Miss Trefor, hithau, gyda'i dagrau i ymosod ar y gelyn. Gorchfygwyd y Capten mewn byr amser, ceisiodd