Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

crefydd, gyda chwi, fod ar y ffordd i'w rwystro i'w wneud yn llwyddiannus. Mae'ch profiad—nid eich profiad crefyddol yr wyf yn ei feddwl—yn fawr. Ein pwnc ni heddiw ydyw sut i wneud sôn a siarad am Bwll y Gwynt, i ffurfio cwmni cryf a chael digon o arian i'n dwylo. Chwi wyddoch fod yn y Gwaith 'olwg' ardderchog, a chwi ydyw'r dyn yn Llunden, a minnau ydyw'r dyn yma—beth bynnag fydd hyd eich cydwybod chwi yn Llunden, yr un hyd yn union fydd hyd f'un innau yma!' Wedi i mi siarad fel yna, ysgydwodd Mr. Fox ddwylo â mi a galwodd am botel o champagne, ac o'r dydd hwnnw hyd heddiw ni fu gair o sôn am grefydd rhyngom. Yr ydech chwi'n 'nabod Mr. Fox, onid ydech chi, Sarah? Bu yma fwy nag unwaith i ginio, ac am grefydd y soniai bob amser gyda chwi, onid e? a byddai'n crio gyda'r llygad nesaf atoch chi, ac yn wincio gyda'r llall arnaf innau. Scotchman ydyw Mr. Fox, a'r rhagrithiwr mwyaf melltigedig a adnabûm erioed—oddieithr fi fy hun! Sarah, bydawn i'n mynd dros yr holl hanes yn fanwl, fe fyddai ei hanner yn Latin i chwi, a'r unig beth a welech yn eglur a fyddai y fath ŵr cydwybodol sydd gennych! Ond 'doedd dim Latin rhwng Mr. Fox a minnau—yr oeddem yn dallt ein gilydd i'r dim. Yr oeddym ein dau'n gobeithio, o waelod ein calonnau, i waith Pwll y Gwynt droi allan yn dda, ac yn credu o waelod ein calonnau mai fel arall y trôi, ond, fel gwir feinars, ni ddarfu i ni sibrwd ein crediniaeth i neb byw bedyddiol.

"Ydech chi'n 'y nghanlyn i, Sarah? Fe ddarfu i ni, fel y gwyddoch, ffurfio cwmpeini cryf, a thalwyd i lawr filoedd o bunnau. Fe ddarfu i ni ei wneud yn point i beidio ag agor ond cyn lleied ag a fedrem ar y Gwaith, rhag i'w dlodi o ddwad i'r golwg, a chymryd gofal i wario cymaint o arian ag a fedrem ar y lan mewn buildings a machinery ac yn y blaen. Achos pan fydd pobl wedi gwario llawer o arian gyda gwaith mwyn bydd yn anos ganddynt ei roi i fyny. Ac fe ddaeth y dŵr i'n helpio i gadw'r Gwaith