Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD X

Marged.

NID oedd Enoc Huws ond naw ar hugain oed, ond yr oedd eisoes yn teimlo ei fod yn hen lanc, ac yn etifeddu holl anghysuron y sefyllfa ddiwarafun honno. Yr oedd ef yn llanc o deimladau tyner a gwyliadwrus iawn o'i gymeriad. Wrth ddewis ei housekeeper, gofalodd am un lawer hŷn nag ef o ran dyddiau. Ei henw oedd Marged Parri. Yr oedd Marged wedi gweled goleuni dydd ugain mlynedd, o leiaf, o flaen ei meistr—ffaith y rhoddai hi gryn bwys arni pan ddeuai cwestiwn dyrys ac anodd ei benderfynu rhyngddynt, megis, Pa un ai nos Sadwrn ai bore Sul y dylid pilio tatws? Pa un ai berwi ai rhostio darn o gig fyddai orau? a chwestiynau dyrys eraill cyffelyb. Gwir dieithriad ydoedd na soniai Marged un amser am ei hoedran oddieithr pan amheuid cywirdeb ei barn. Ar adegau felly dywedai, Mistar, yr ydw' i yn hŷn na chi, a fi ddylai wbod ore." Ni bu Marged erioed yn briod—nid am na chafodd gynigion gwerthfawr lawer gwaith, meddai hi, ond am fod yn well ganddi fywyd sengl. Ond tybiai ei meistr, Enoc Huws, ei fod yn canfod rheswm arall am sefyllfa ddibriod Marged, a'r rheswm hwnnw oedd ei chymhwyster pennaf yn ei olwg fel housekeeper—sef anserchowgrwydd ei hwynepryd. Yr oedd un olwg ar wyneb Marged yn ddigon i argyhoeddi pob dyn rhesymol na chusanwyd mohoni erioed oddieithr iddi daro ryw dro ar ddyn dall o'i enedigaeth. Ac nid ei hwyneb oedd yr unig reswm tybiedig am ei sefyllfa ddibriod; oblegid nid oedd ffurf ei chorff yn un o'r rhai mwyaf gweddeiddlwys, nac yn debyg i un a fuasai yn ennyn edmygedd unrhyw ŵr ieuanc o chwaeth uchel, neu aflonyddu dim ar ei gwsg. Yr oedd yn fer a llydan, ac yn peri i un feddwl bod Marged, ar un adeg, wedi gorfod cario pwysau anferth ar ei phen, nes iddi suddo cryn lawer iddi hi ei hun, a byrhau ei gwddf a'i choesau, a lledu