Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Diolch," ebe Enoc yn floesg. Yn y man, teimlai ei hun yn hapus dros ben. Ymhen ychydig funudau, teimlai yn awyddus i roi cân, a lled—ddisgwyliai i rywun ofyn iddo ganu, a dechreuodd sugno ei gof pa gân a fedrai orau, a phenderfynodd ar Aderyn Du Pigfelyn," os gofynnid iddo. Gan nad oedd neb yn gofyn iddo ganu, ni thybiai yn weddus gynnig ohono ei hun. Wedi hir—ddisgwyl, daeth drosto deimlad o syrthni, ond ofnai gau ei lygaid rhag y buasai'n cysgu, oblegid cofiai ei fod yn chwyrnwr, ac ni fynasai am fil o bunnau i Susi wybod ei fod yn perthyn i'r rhyw hwnnw o greaduriaid. Tybiai, weithiau, ei fod mewn clefyd, a phryd arall, mai breu— ddwydio yr oedd. Ond ni allai fod yn breuddwydio, canys yr oedd yn sicr fod Susi, Capten Trefor, a Mr. Denman, yn edrych arno. Weithiau ymddangosent ymhell iawn oddi wrtho, ac yn fychain iawn; bryd arall, yn ei ymyl—yn boenus o agos—yn enwedig y Capten a Mr. Denman. Teimlai'n awyddus i siarad â Susi, a dweud ei holl feddwl wrthi, a gwyddai y gallai wneud hynny yn hollol ddiofn a hyderus, oni bai ei fod yn gweled ei thad a Mr. Denman o flaen ei lygaid. Yr oedd yn berffaith sicr yn ei feddwl ei fod ar delerau da â phob dyn ar wyneb daear, ac y gallai wneud araith ar unrhyw bwnc yn hollol ddifyfyr! Am ba hyd y bu yn y cyflwr hwn ni fedrodd byth gael allan, ac ni hoffai gofio'r amgylchiad. Gwylid ef yn fanwl gan y Capten, Susi, a Mr. Denman, a phan welsant arwyddion ei fod yn dyfod ato ei hun, ebe'r Capten:

"Sut yr ydych yn teimlo erbyn hyn, Mr. Huws?"

"Yn iawn," ebe Enoc.

"Mi wyddwn," ebe'r Capten, "y gwnaethai dropyn ddaioni i chwi; a chan ei fod wedi gwneud daioni i Mr. Huws, paham, Susi, na wneith o ddaioni i minnau? ac wedi i chwi ei estyn i mi, chwi ellwch chwi, Susi, fynd, gael i ni orffen y busnes, hynny ydyw, os ydyw Mr. Huws yn teimlo yn barod i fynd ymlaen."