Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hir ydyw honno nad oes tro ynddi, fel y dywed y Sais, ac, fel yr wyf eisoes wedi egluro i Mr. Denman, orau y gallwn i, cyn i chwi ddyfod i mewn, nid peth amhosibl, nac, yn wir, annhebygol, y gwelwch chwi a minnau'r dydd, er ein bod yn gobeithio'r gorau, pan fydd Pwll y Gwynt, mewn ffordd o siarad, a'i ben ynddo—nid am nad oes yno blwm, ac nid—er mai fi sydd yn dweud hynny—am nad ydyw'r Gwaith yn cael edrych ar ei ôl—cyn belled ag y mae'n bosibl edrych ar ei ôl pan fo dyn dan reolaeth estroniaid, nid yn unig o ran iaith, ond o ran profiad a gwybodaeth ymarferol, fel y gŵyr Mr. Denman. Mi welaf ar eich gwedd, Mr. Huws, eich bod wedi'ch cymryd by surprise, fel y dywedir, a hynny'n ddigon naturiol. Ond cofiwch nad ydwyf yn hysbysu hyn i chwi fel mater o ffaith; yn wir, yr wyf yn gobeithio na chymer hynny le yn eich oes chwi a minnau. Ond, fel y dywedais cyn i chwi ddyfod i mewn, fyddai ddim. yn rhyfedd gennyf—yn wir, mae gennyf sail i ofni mai i hynny y daw hi—fyddai ddim yn rhyfedd gennyf bydae'r Saeson yna—a chwi wyddoch, Mr. Huws, mai Saeson ydyw'r cwbl o'r cwmpeini, oddieithr Mr. Denman a mi fy hunan, fel mae'r gwaethaf, ac fe ŵyr Mr. Denman pam yr wyf yn dweud fel mae'r gwaethaf,'—fyddai ddim yn rhyfedd gennyf, meddaf, bydae'r Saeson yna yn rhoi'r Gwaith i fyny cyn pen y mis, er y byddai hynny yn un o'r pethau ffolaf ar wyneb daear, ac yn groes iawn i'm meddwl i—nid yn unig am y dygai hynny deuluoedd lawer i dlodi, ac y teimlai'r gymdogaeth oddi wrtho yn dost, ond am y byddai'n sarhad, i raddau mwy neu lai, ar fy ngharitor i yn bersonol, oherwydd fy mod ar hyd y blynyddoedd, fel y gwyddoch, yn dal i ddweud, ac mi ddaliaf eto i ddweud, bod ym Mhwll y Gwynt blwm, a phlwm mawr, pe cymerid y ffordd iawn i fynd ato. (Beth sydd â wnelo hyn i gyd â Susi a minnau?' gofynnai Enoc iddo ei hun.) Nid oes amser heno, Mr. Huws, i fynd i mewn i fanylion, ac nid oes eisiau i mi ddweud bod hyn i gyd in confidence, ar hyn o bryd,