Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Thank you, Mr. Huws, un arw' fyddwn ni, yn sir Fflint, yn galw un fydd yn nodedig o hyll—neu wedi ei marcio yn drwm gan y frech wen—tebyg i Marged, eich housekeeper chwi," ebe Susi.

"Digon gwir, Miss Trefor," ebe Enoc, "ond chwi wyddoch fod i rai geiriau ddau ystyr, ac nid yr ystyr —"

"Dau ystyr, Mr. Huws?" ebe Susi, cyn i Enoc gael gorffen y frawddeg—" dywedwch fod i bob gair hanner dwsin o ystyron gennych chwi, y dynion, achos 'dydech chi byth yn meddwl y peth fyddwch chi'n 'i ddeud, nac yn deud y peth fyddwch chi'n 'i feddwl, pan ddaw'ch geirie a chithe i wynebe'ch gilydd."

"Mi ddywedaf hyn," ebe Enoc, gan alw hynny o alantri oedd yn ei natur i weithrediad, "mai angel ydech chi, Miss Trefor."

"Hy!" ebe Susi, angel syrthiedig, wrth gwrs, ydech chi'n 'i feddwl, achos y mae dau ystyr i'r gair. Wel, bydaswn i yn gwybod y basech chi, Mr. Huws, mor gas wrtha i, 'chawsech chi ddiferyn o frandi—a mi gawsech farw ar y soffa, y dyn brwnt gynnoch chi. Nos dawch, Mr. Huws," a rhedodd Susi i'r tŷ.

"Wel, yr hen jaden glyfar! A bydase hi heb 'i gloywi hi, wn i ddim be faswn i'n medryd i ddeud mewn atebiad iddi," ebe Enoc wrtho ei hun, fel y cerddai yn brysur tua chartref, a'i syniadau am Miss Trefor yn uwch nag erioed. Ni feddyliodd am neb na dim ond amdani hi nes ei fod o fewn decllath i'w dŷ, pryd y croesodd Marged ei ddychymyg. Fel bachgen drwg wedi aros allan yn hwyr heb ganiatâd ei fam, teimlodd Enoc yn anghyfforddus wrth feddwl am wynebu Marged, a dechreuodd ddychmygu am ryw air melys i'w rhoi mewn tymer dda.

Dianghenraid yw dweud nad oedd dwy awr o gysgu wrth y tân wedi lliniaru na phrydferthu dim ar Marged. Pan gâi awr neu ddwy o gyntun wrth y pentan, glynai ei hamrantau wrth ei gilydd fel pe buasent wedi eu sicrhau â chŵyr crydd, a byddai raid iddi ddefnyddio ei