Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XIV

Pedair Ystafell Wely.

RHIF I. "Na, 'dydi hi ddim mor unapproachable ag yr oeddwn i'n meddwl. Ydi o ddim ond rhyw ffordd sy ganddi. Yn wir, y mae hi'n garedig—mi weles ddigon heno i brofi hynny. Ac mae hi'n glyfar hefyd yn sharp. Wel, oni fûm i'n ffwlcyn! Tybed ddaru'r Capten ddallt mai am Miss Susi yr oeddwn i'n meddwl tra'r oedd o'n siarad am waith mwyn? Bu agos i mi 'i henwi hi fwy nag unweth. Y fath lwc na ddaru mi ddim! Y fath joke fase'r peth! Y fath joke ydi'r peth! Be bydae rhai o'r chaps yma yn cael gwynt ar y 'stori! Y fath wledd fydde hi! Ac eto 'dydw i ddim yn hollol dawel fy meddwl—fedra i ddim peidio ag ofni bod yr hen dderyn wedi spotio 'mod i'n meddwl am Miss Trefor, tra 'roedd o yn sôn am waith mwyn. Ac mor debyg! Ond, pwy, tu yma i'r haul, fase'n dallt at be 'roedd o'n dreifio efo'i yn wir,' ac mewn geiriau eraill,' ac' fel mater o ffaith?' Mae pob brawddeg ganddo cyd â blwyddyn, ac yn cymryd gwynt dyn yn lân. Mae un peth yn 'y mlino i'n sobor,—' Peidiwch â chrio, Mr. Huws bach,' medde hi. Ymhell y bo hyna! Crio! dyn yn f'oed i yn crio! am 'i fod o'n sâl! Dyna ddaru hi feddwl, mi wn. Dario hyna! Ond y felltith brandi hwnnw 'naeth i'r dagrau ddwad i'm llygaid i! Bydaswn i'n marw fedrwn i mo'u stopio nhw. Wel, ond oedd o cyn boethed â lwmp o dân uffern, mi gymra fy llw! a hithe'n meddwl mai rhyw fabi yn crio am 'i fam oeddwn i. Os lladdith rhywbeth fi yn 'i golwg hi—y crio 'neith. Rhaid i mi gael egluro iddi eto. Ymhell y bo! mi fase'n well gen i na chanpunt dase'r crio yna heb hapno. Mi gymra fy llw i bod hi'n edrach arna' i fel rhw lwbi—labi! Ond aros di, Enoc, yr wyt ti 'rwan ar delerau efo'r teulu i fynd yno yn ôl a blaen, a mae o fel breuddwyd gen i. Ond fe fydd raid i mi gymryd shares yn y fentar newydd, neu