pethau'n troi allan, wedi mynd i gredu mai nervous character oeddwn, ac ni fuasech yn credu peth sydd, erbyn hyn, yn ffaith, sef ein bod yn dlawd, a bod Pwll y Gwynt ar ddarfod amdano."
Wyddoch chi, Richard," ebe Mrs. Trefor, "nid y meddwl yn bod ni'n dlawd sy'n 'y mlino fwya, er y bydd hynny yn change mawr i ni ar ôl yr holl gario 'mlaen ; na, mae'n gwell ni wedi dwad i dlodi cyn hyn. Trefn Rhagluniaeth ydi peth felly. Yr hyn sy'n torri 'nghalon i ydi'r peth ddaru chi ddeud amdanoch ych hun. Mi wyddwn ych bod chi'n cymryd diod—ond rhaid i mi ddeud na weles i 'rioed arwydd diod arnoch—mi wyddwn ych bod chi'n dwad i gysylltiad â phob math o ddynion; ond 'roeddwn i bob amser yn credu'ch bod chi'n ddyn gonest, geirwir, a duwiol, a dene oedd cysur penna 'mywyd i. Ond ar ôl neithiwr, fedra' i ddim meddwl felly amdanoch 'rwan."
"Rhaid i mi gydnabod, Sarah," ebe'r Capten, "mai chwi, o bawb, ond yr Hollwybodol, sy'n f'adnabod i ore, a phe na bawn yn f'adnabod fy hun, mi wn at bwy yr awn i gael syniad cywir pa fath un ydwyf. Yr ydych, am hanner oes, wedi cael y cyfle gore i'm hadnabod, allan ac allan, fel y dywedir, ac o dan bob amgylchiadau. Ac mae'n rhyfedd meddwl, Sarah, fod y syniad oedd gennych amdanaf—syniad a gymerodd hanner oes, fel y dywedais, i'w ffurfio a'i gadarnhau, wedi ei ddymchwelyd mewn un awr yn wir, mewn hanner awr, neu lai na hynny. Yr wyf yn dueddol, mi wn—mae o ynof erioed, er yn blentyn—i'm dibrisio fy hun, ac i osod allan fy meiau—neu, os mynnwch, fy mhechodau—mewn gwedd, a dweud y lleiaf, dipyn yn eithafol. Mewn geiriau eraill, y mae mwy o'r publican ynof nag o'r Pharisead. Ac eto, Sarah, fe addefwch nad yw cyfaddef beiau yn beth dieithr i dduwiolion. Yn wir, yr wyf yn meddwl y gellir dweud—a'm cadw fy hun allan o'r cwestiwn yn y wedd yma y gellir dweud bod cyfaddefiad bai yn arwydd ac yn nod o dduwioldeb. Heb i mi nodi mwy