terau hyn ofid a phenbleth, er yr holl garedigrwydd a gefais gan y Llefarwr (a ddywedodd wrthyf fod ei fab ei hun yn heddychwr) a'r Aelodau yn gyffredinol. Bûm yn wael am rai misoedd o deyrnasiad byr y Llywodraeth Lafur. Pan ddeuthum drachefn i'r Tŷ a siarad am gymod ar fater rhannu tiriogaethau De a Gogledd Iwerddon, synnwyd fi gan sirioldeb
Aelodau o bob plaid wedi i mi apelio am godi'r cwestiwn at Frawdlys Crist a'i ysbryd. Daeth nifer ohonynt i ysgwyd llaw, a mynnodd Syr Charles Trevelyan, Gweinidog Addysg wedi hynny, i ni gael cinio ynghyd er mwyn dilyn meddwl y cymod ymhellach; ac yr oedd yntau'n ŵr heb broffesu crefydd. Nid oes ofod yma i ddisgrifio polisi Macdonald na'i gais i leddfu gelyniaeth Poincare a Ffrainc, na'r ystrywiau anystyriol a'i bwriod ef o'i swydd, na'r cyhoeddi gan y Daily Mail o'r Zinoviev Letter (heb i neb hyd heddiw wybod nad oedd yn gelwydd) i chwarae ar ofn a rhagfarn y wlad am Rwsia. [1] Perthyn y pethau hyn i game gwleidyddiaeth. Cofiaf awr olaf y Senedd honno. Yr achos gerbron ydoedd araith gan ŵr dinod o Gomiwnydd o'r enw Campbell, a fu'n erfyn ar filwyr beidio ag ymladd dros Lywodraeth gyfalafol; gwrthododd y Llywodraeth ei gosbi gan feddwl na buasai hynny ond yn tynnu sylw at ddemagogiaeth ddinod. Cyhuddwyd y Llywodraeth gan yr Wrthblaid o goleddu Comiwnyddiaeth, a hynny gan wŷr a aethant, ymhen rhai blynyddoedd, yn gefnogwyr Macdonald yn y Llywodraeth Genedlaethol. Cynigiwyd pleidleisiau gwahanol o gondemniad gan y Toriaid a'r Rhyddfrydwyr; ffromodd y P.W. gan fychander ystryw o'r fath, a dywedodd y safai neu y cwympai'r Llywodraeth ar y bleidlais. Yn yr awr olaf, tynnodd y Toriaid eu cynnig yn ôl, er mwyn pleidleisio gyda'r Rhyddfrydwyr, a oedd bellach wedi eu dal yn eu bagl eu hunain; ac yn hytrach nag ildio "a cholli wyneb" gadawsant i'r Llywodraeth gwympo ar hanner ei waith. Bûm yn siarad â Macdonald hanner awr cyn y bleidlais; yr oedd mewn tymer nerfus ac yn dioddef yn fawr gan y ddannodd. Dywedais wrtho fod Lloyd George a Syr John Simon yn edrych yn glaf wedi chwarae tactics plaid a chael eu dal gan y Toriaid yn eu bagl eu hunain. Torrodd yntau allan: "Dylent edrych yn glaf. Y fath chwarae plant am fater mor fychan, a chymaint o broblemau pwysig gerbron y wlad."
- ↑ Gweler A Retrospect, Lord Parmoor.