Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

allan eu hiachawdwriaeth eu hunain, ac iachawdwriaeth y plant yn y mannau lle'r oeddynt, a chyflwyno addysg, fel crefydd, "Nid rhag ofn y gosb a ddêl, nac am y wobr chwaith." Credais ei fod yn bosibl, ac yn ymarferol mewn ysgolion diwylliedig, fagu cymdeithas rydd a threfnus a chariadus yn yr ysgol heb blygu i'r curo dwl a'r gystadleuaeth afiach a'r cramio dienaid a dynnodd gerydd a phrotest Syr O. M. Edwards pan oedd yn Brif Arolygydd Ysgolion Cymru. Yn ddieithriad bron, cyfododd yr apêl gyffes a phrotest yr athrawon yn erbyn safonau arholiadol a wnaeth fywyd athro a phlentyn fel ei gilydd yn faich mewn llawer ysgol. Yr oedd y rhieni gymaint yn y tywyllwch â'r aelodau o'r Cyngor Addysg, yn eu hanwybod o'r ffaith eu bod yn "lladd y cywion er mwyn yr wyau." Wrth darfu rhyddid, naturioldeb, gwreiddiolder, a gwir ddiwylliant y plant, yr oedd bywyd yn mynd yn feichus a nerfus iddynt dan ddisgyblaeth arholiad a amcanwyd nid i'r lliaws ond i'r llai na 7 yn y 100 a aeth ymlaen am addysg academig i'r colegau. Nid oedd gennyf yr un ateb i gŵyn a cham yr athrawon, ond eu cymell i addysgu eu meistri ac agor llygaid y rhieni a'r cyhoedd i'r difrod ar galon a meddwl y plant, a'u datgysylltiad o wir ddiwylliant Cymru. Mewn ambell ysgol mentrwyd tynnu'r iau a dibynnu ar ras yn ôl eu proffes crefyddol. Yn ysgol enwog Howell, Dinbych, nid oes na marc na chosb ers blynyddoedd, ac mewn ysgol yn Llŷn gweddnewidiwyd wynebau plant yr ardal gan athro deallus a dwys.

ADDYSG GREFYDDOL

Un peth yw tynnu allan fap o'r wlad a disgwyl ffarmio crefydd trwy lun a chynllun o addysg grefyddol; crefft arall yw dysgu trin gardd a thyfu llysiau a charu blodau. Yn wir, cyfeiliornodd Cymru oddi wrth foddion gwirfoddol a chrefyddol addysg wrth roddi ei bryd ar gynlluniau cenedlaethol, ac ar ffarmio addysg er mwyn marchnadoedd, ac anghofio'r cymhelliad efengylaidd, "Nid rhag ofn y gosb a ddêl, nac am y wobr chwaith." Dywedodd Syr O. M. Edwards, yn ei adroddiad fel Prif Arolygydd yr ysgolion yn 1909, ein bod eisoes yn yr ysgolion canol yn magu "bechgyn pren" wedi eu cramio â ffeithiau di-fudd ond at bwrpas pasio arholiad. Cofiaf imi gael gwahoddiad, pan oeddwn yn y Senedd, i ymweled â'r hen ŵr Syr Arthur Acland, y Gweinidog