hysgleifio gan y bleiddiaid?" Atebais innau fod y cwestiwn yn rhagdybio eu bod hwythau'n ŵyn a'r cyflogwyr yn fleiddiaid, ac nad oedd y naill na'r llall yn wirionedd; ond pe byddai'n wir, dyna oedd arch Crist i'w ddisgyblion—wynebu'r eithaf, "Yr wyf yn eich danfon chwi fel ŵyn i fysg bleiddiaid." Wedi cryn drafodaeth, ac yng ngwydd cannoedd o'r gweithwyr, cododd y naill ar ôl y llall i ddweud mai dyna oedd y ffordd, nad oedd y glowyr eu hunain yn barod i wneuthur cronfa ganolog i rannu'r elw wrth weithio'r haenau glo iddynt eu hunain yn ystod y streic, a bod yr ymdrech i'w "hymladd hi allan" wedi profi'n fethiant llwyr. Synnwyd a chynhyrfwyd fi gan y fath barodrwydd i ystyried ffordd eithafol y canol, a theithiais drwy'r nos at fy nghyfaill, y perchennog, i adrodd y pethau a glywais, ac i erfyn arno geisio estyn llaw brawdoliaeth a haelfrydedd at y rhai gorchfygedig a digalon. Ond, megis y bu ar ôl gorchfygiad yr Almaen, yr oedd y perygl drosodd am ryw hyd, ac ni welwyd yr un datganiad hael o du'r perchenogion ar ôl y fuddugoliaeth ddrud.
Felly yn 1926 cododd cymylau y rhyfel dosbarth drachefn, a mawr fu ymdrech ac ymladd a gofidiau mamau a phlant y glowyr, a cholledion y perchenogion wrth geisio osgoi canlyniadau iawndal yr Almaen a diffyg cymod a chyfathrach cenhedloedd. Cyfeiriwyd eisoes at adroddiad swyddogol Cwmni y Powell Duffryn mor ddiweddar â 1929 am effeithiau andwyol iawndal yr Almaen ar byllau glo Deheudir Cymru. Oherwydd cam a chyni'r glowyr y dechreuodd y Streic Gyffredinol, a fygythiodd ddymchwel y Cyfansoddiad am rai dyddiau. Cofiaf, y dydd Sadwrn y parlyswyd y rheilffyrdd trwy Brydain, i gyfaill o gyfreithiwr, a oedd hefyd yn heddychwr, alw yn fy nghartref yn Nant Gonwy, dan gymhelliad i erfyn arnaf fyned gydag ef yn ei gerbyd i geisio rhywun, rhywsut yn Llundain a allai rywfodd bontio'r gagendor. Ymddangosai ar yr wyneb yn anturiaeth ofer a chwerthinllyd, ond yr oedd gofid fy nghyfaill mor fawr â'i ffydd mor gref fel y mentrais fyned gydag ef. Arosasom yng Ngwesty Euston. Cefais air ar y phone â gŵr o'r Cyfrin Gyngor, a ddywedodd y buasai Mr. Baldwin yn datgan ei air olaf ar y sefyllfa y diwrnod canlynol. Aethom oddi yno rhag blaen i dŷ'r Arglwydd Salisbury, fy marnwr hynaws a chyfiawn pan oeddwn dan y ddeddf ger ei fron. Cefais wahoddiad ganddo i'w weled drannoeth. Y noson honno