Yn y flwyddyn hon y gwnaed Sieffrai o Fynyw yn Esgob Llanelwy; y gwr hwn a elwid Gruffydd ap Arthur, efe a gyfieithodd o'r Gymraeg i'r Lladin, yr hanes a elwid Brutt y Brenhinoedd, casglfa o chwedlau ofer, wedi eu cyfaddasu i amserau coelgrefyddol, ond wedi eu sylfaenu ar lawr gwirioneddol fel y meddylir.
Yn 1156 y Brenhin Harri o Loegr a ddaeth ar Gymru gyda byddin, yn mhlaid Cadwaladr , brawd y tywysog, yr hwn a fwriasid allan o'i feddiannau, am ryw achosion na wyddir heddyw yn eu cylch. Y Brenhin a wersyllodd ei lu ar forfa Caer. Owain a'i gwynebodd, ac a ladd- odd rai o'i brif swyddogion, y rhai oedd yn cyfarchwylio ei sefyllfa, yn y lle a elwid Coed Eulo , ac a barhaodd ei ruthrgyrch gan wneuthur difrod nid bychan yn mysg lluoedd y Brenhin . Y Brenhin wrth ganfod y fath annisgwyliadwy ruthr a chilgwthiad , a symmudodd rhagddo , gan amcanu amgylchu y fyddin Gymreig ; ond y tywysog Owain a'i cadarnhaodd ei