ac addysgwyd a dysgyblwyd ef o'r cryd i gyflawnu y genadaeth bwysig hono. Ni chafodd uchelgais personol le o gwbl yn ei feddyliau—gweled cyflawni gobaith Cymru oedd y cwbl ganddo. "Eglwys Rydd, i Bobl Rydd, mewn Gwlad Rydd"—arwyddair mawr Owen Glyndwr, a lenwai ei galon a'i enaid. Rhyddhau ei gyd-grefyddwyr oddiwrth eu caethiwed o dan Eglwyslywiaeth estronol o ran ei tharddiad, ei gydwerinwyr oddiwrth ormes Sgweierlywiaeth estronol o ran ei syniadau, a'i gydwladwyr oddiwrth rwymau plaid wleidyddol estronol o ran ei chydymdeimlad— dyna'r amcanion mawr a lenwai ei fryd pan aeth gyntaf i'r Senedd.
O'r tri hyn ystyriai yr olaf fel moddion effeithiol er sicrhau y ddau flaenaf. Cysylltai bob amser y landlord a'r offeiriad fel cyngreiriaid, yn cyduno a chydweithredu i orthrymu gwerin Cymru. Rhaid deall hyn er mwyn deall agwedd meddwl, a natur geiriau, a dyhead politicaidd Lloyd George yn y cyfnod hwnw Am y Werddon dywedai: "Mae yn gorwedd o dan glwyfau a achoswyd gan landlordiaid Satanaidd." Gwaeth hyd yn nod na hyny, meddai, oedd cyflwr Cymru. "Yma yn Nghymru," meddai, "cawn yr offeiriad, yr hwn a ddylasai gynorthwyo ac ymgeleddu yr archolledig, yn ymuno a'r landlord i'w ysbeilio." Ac nid fel rhyw gorn-y-gynen i'r werin oddi ar y llwyfan adeg etholiad, y defnyddiai y geiriau celyd a'r brawddegau chwerw hyn. Llefarai eiriau cyffelyb yn Nhy'r Cyffredin. Yno yn y flwyddyn 1899, wedi bod am naw mlynedd yn Aelod Seneddol, dywedai: