fod y wlad yn galw am dano a'r esgobion yn ei gefnogi. Torodd Lloyd George allan fel hyn:
"Cymerodd Arglwydd Lansdowne iddo ei hun hawl na feiddiodd yr un Brenin ei gymeryd er dyddiau bygythiol Siarl I. Gyrir gorchymyn allan o Lansdowne House na yrai'r Brenin byth o Balas Buckingham."
Ond pan daflodd yr Arglwyddi Gyllideb Fawr Lloyd George allan, "Cyllideb y Werin" fel y'i gelwid, yn 1909, cyflawnasant fesur eu hanwiredd. Bu Ty'r Cyffredin yn eistedd am wyth mis i'w ddadleu; rhanwyd y Ty 550 o weithiau arno; ymladdai'r Toriaid yn ffyrnig i'w erbyn, ond cariodd Lloyd George ef yn ddiangol gyda mwyafrif mawr a chyson drwy holl stormydd Ty'r Cyffredin. Gelwid ef yn "lleidr" a phob rhyw enw drwg. Wedi methu o honynt ei orchfygu ef a'r werin, apeliasant at Dy'r Arglwyddi. Taflodd y Ty hwnw y mesur allan, gan droseddu o honynt felly ddeddf anysgrifenedig y Cyfansoddiad Prydeinig na fedrai'r Arglwyddi ymyryd a Mesur Trethiant.
Cododd y wlad fel un gwr yn erbyn yr Arglwyddi. Lloyd George oedd arwr mawr y werin drwy'r deyrnas; edrychai'r bobl arno fel eu noddwr a'u hamddiffynydd. Gwelodd Lloyd George ei gyfle wedi dod i roi ergyd marwol i Dy'r Arglwyddi. Cafwyd etholiad cyffredinol, a Mr. Asquith a'r Weinyddiaeth Ryddfrydol yn amlygu yn gyhoeddus na ddaliai yr un o honynt swydd mwyach heb gael o honynt sicrwydd yr amddifedid yr Arglwyddi o'r hawl oedd ganddynt hyd yn hyn i daflu allan, neu i rwystro, mesurau Rhydd-