Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yw, fod America a'i Chymry yn anwyl iawn genyf finau. Tir cysegredig i mi yw yr Unol Dalaethau. Yna mae fy Ogof Macpelah, ac er nad tebyg y gwelaf byth mo'r wlad a llygad o gnawd, yn ei phriddellau hi y gorwedd llwch anwyl fy nhad a mam, fy nhaid a fy nain, a llu o'm cyfathrach agosaf. Mae i mi heddyw ddeg o berthynasau agos yn ol y cnawd yn yr Unol Dalaethau am bob un o'r cyfryw ag sydd genyf yn Nghymru. Ymfudodd fy nheulu yn mron yn gyfan i'r Unol Dalaethau dros bedwar ugain mlynedd yn ol, gan mwyaf o ardal gysegredig Llangeitho. Hwynthwy a sefydlasant, a ddadblygasant, ac yn ymarferol, a berchenogasant, swydd Jackson, Ohio. Erbyn heddyw, mae eu plant a'u hwyrion wedi gwasgaru dros hyd a lled y Weriniaeth fawr. O bryd i bryd daeth eraill o'm perthynasau agosaf dros y Werydd i wlad fawr machlud haul; fel, erbyn heddyw, nid oes odid dalaeth yn y Gogledd na'r De, yn y Dwyrain na'r Gorllewin, na cheir ynddi rai o'm llinach. Er nad yw fy enw i, o bosibl, yn adnabyddus i lawer o Gymry'r America o'r tu allan i gylch fy nghyfathrach, yr oedd enw fy nhad yn adnabyddus i filoedd lawer o honynt, a gwn fod ei enw nid yn unig yn barchus, ond yn anwyl heddyw ar aml i aelwyd na chlywodd erioed son am danaf fi. Yn nyddiau eu henaint daeth fy nhad a fy mam i'r wlad yna, at fy unig chwaer, priod "Caradog Gwent," a breswyliai y pryd hwnw yn Jackson, O. Symudasant wedi hyny i Arkansas, lle y claddwyd fy nhad, fy mam, a'm brawdyn-nghyfraith. Mae fy chwaer, a hithau bellach yn