Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAMANT BYWYD

LLOYD GEORGE

PENOD I.

Y DYN A'I NODWEDDION.

NID anfri ar athrylith Mr. Lloyd George yw dweyd mai trwy ddyoddefiadau pobl eraill yr ysbrydolwyd ef, ac mai i aberth eraill y rhaid iddo ddiolch am ran helaeth o'i lwyddiant. Nid yw y "cyhoeddusrwydd di-dosturi" y soniai yr Arlywydd Wilson am dano, a'r hwn fel chwil-oleu tanbaid a fyn dreiddio i bob cell ddirgel o'i fywyd, yn ddim amgen na rhan o'r pris y gorfu i Mr. Lloyd. George, fel pob gwr cyhoeddus arall, dalu am ddringo i safle mor uchel; eto gwelir yn y goleu dysglaer hwnw effeithiau a'n galluogant i ddeall yn well ddadblygiadau ei ddeng mlynedd ar hugain o waith cyhoeddus, a throion dyrys ei yrfa yn y Senedd am chwarter canrif.

Yn ngoleuni y cyhoeddusrwydd hwn gwelir ei fod, o'i fabandod, yn nodedig o barod i gymeryd argraff dylanwad ei amgylchfyd. Cyffroid ef bob amser gan unrhyw arddangosiad o ormes; apeliai cri y gorth-