Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei Gyllideb Fawr yw, nac ychwaith y cyllidydd cyfrwys y mynai arianwyr Llundain heddyw ei goroni wedi methu o honynt ei groeshoelio. Mewn gair, nid yw holl athrylith Machiaveli, na holl ffalsedd Mephistopheles, nac ychwaith yr holl briodoleddau dwy fol, yn eiddo iddo ef, er ddarfod i'r un personau briodoli yr holl feiau a rhinweddau hyn iddo o dro i dro.

Nid ei elynion politicaidd yn unig ychwaith a gamddeallasant y gwr a'i weithredoedd. Syrthiodd ei gyfeillion gwleidyddol ar adegau i'r un amryfusedd. Gwahanol iawn y sonir am dano heddyw gan newyddiaduron Rhyddfrydol Prydain, i'r hyn a wnaent ychydig flynyddoedd yn ol. Bu adeg, yn wir, pan na fynai papyrau ei blaid ei hun goffhau ei eiriau na'i weithredoedd, ei gynlluniau na'i bolisi, tra heddyw canmolir ef i'r uchelderau gan y wasg a reolir gan Arglwydd Northcliffe. Nid oes newyddiadur o unrhyw blaid heddyw na rydd le mor amlwg i Mr. Lloyd George ag a ga Mr. Asquith ganddynt; tra yma yn yr America, yn Canada fel yn yr Unol Dalaethau, cyhoeddir ei areithiau mawr air yn air gan brif newyddiaduron y cyfandir.

Trwy ba foddion, tybed, yr enillodd efe lwyddiant? Priodola un gwleidyddwr enwog a fu mewn cysylltiad agos ag ef yn y Weinyddiaeth, lwyddiant Mr. Lloyd George i bedwar achos mawr-beiddgarwch, hyawdledd, gwneyd defnydd deheuig o'r wasg, a 'supreme smartness.' Os olrheinir ei hanes o'i fachgendod gwyllt hyd ei wladweiniaeth aeddfed, ceir fod pob un o'r pedwar peth a nodwyd wedi cynorthwyo i gyfeirio