Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/241

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhyddfrydwyr a Thoriaid yn cydeistedd ar hyn o bryd fel cyd-aelodau o'r un Cabinet yn gwneyd gwaith Mr. Lloyd George, pan ddelo'r amser i ymaflyd eto yn y cwestiynau hyn, yn rhwyddach gyda rhai ac yn anhawddach gydag eraill o honynt. Cafwyd, o fewn y dyddiau diweddaf hyn, nad yw'r Ethiop Toriaidd wedi newid ei groen, na'r llewpard Rhyddfrydol ei frychni, wrth fod y ddwy blaid yn cydeistedd yn yr un Cabinet i gyd-reoli materion y Rhyfel.

Bu yn mron myned yn rhwyg ar gwestiwn parhad oes y Senedd bresenol. Yn ol trefn natur yr oedd y Senedd hon i farw ddiwedd mis Rhagfyr, 1915, ac Etholiad Cyffredinol i gymeryd lle yn Ionawr, 1916. Gan nad dymunol a fyddai cael berw etholiad ar ganol y Rhyfel, bwriadai'r Cabinet ddwyn Mesur arbenig i mewn yn estyn oes y Senedd bresenol drwy ddarparu nad oedd adeg y Rhyfel i gyfrif fel rhan o oes y Senedd hon. Golygai hyny na fuasai raid cael etholiad am o leiaf flwyddyn ar ol diwedd y Rhyfel. Ar y wyneb ymddengys yn drefniant doeth. Ond yr oedd Mesur pwysig o dan Parliament Act Lloyd George wedi pasio mewn dau Senedd dymor ar waethaf Ty'r Arglwyddi. Pe ceid blwyddyn ar ol y Rhyfel i'r Senedd hon, gallasai'r Mesur hwnw ddod yn ddeddf ar waethaf Ty'r Arglwyddi.

Mesur yr Aml Bleidlais oedd yn darparu na chaffai neb, gan nad faint o eiddo eill fod ganddo, bleidleisio mewn mwy nag un etholaeth. Fel y mae ar hyn o bryd geill gwr cyfoethog y bo ganddo eiddo mewn gwahanol fanau bleidleisio yn mhob etholaeth y bo ganddo eiddo