Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tiwn hwn, a rhaid, drwy hyny, godi unwaith eto y frwydr fawr rhwng dwy egwyddor lywodraethol byd masnach. Nid yw yn anmhosibl y orofa'r Rhyfel ei hun yn foddion i derfynu y frwydr rhwng Masnach Rydd a Diffyndolliaeth, mor bell ag y mae a fyno Prydain ac Ewrop. Dywedir mai Rhyfel i osod diwedd ar Ryfel yw Rhyfel Mawr Ewrop, eithr ni cheir heddwch ond ar dir cyfiawnder rhwng cenedloedd. Golyga cyfiawnder ryddid, a chyfiawnder cyd-genedlaethol gyfartal hawliau a breintiau, hyny yw hawliau a breintiau y naill yn agored i'r llall hefyd i'w mwynhau. Dywedai Lloyd George yn un o'i areithiau mai hyrwyddwr goreu heddwch yw marchnad agored. "Gadewch i genedloedd y byd," ebe fe, "gyfarfod a'u gilydd ar yr un tir, mewn marchnad agored i bawb, pawb yn mwynhau yr un manteision a'u gilydd i wneyd busnes a'u gilydd ar dir ac amodau cyfartal, ac ni bydd llawer o berygl y torir yr heddwch rhwng y gwledydd hyny." Soniai yn y Senedd ar ddechreu'r Rhyfel, am "y fwled arian" gan ddal mai arian benderfyna gwrs a therfyn y Rhyfel. Dengys yr adroddiadau a geir y dyddiau hyn o Germani ac Awstria yn arbenig, mor glir oedd rhagwelediad y Cymro ddeunaw mis yn ol. Ceir profion diymwad yn amlhau o ddydd i ddydd, mai un o amcanion mwyaf Germani wrth gyhoeddi rhyfel oedd sicrhau iddi hi ei hun lywodraeth ar fasnach a marchnadoedd y byd, a hi yw y wlad lle y cerir egwyddor Diffyndolliaeth i'w heithafion pellaf. Yn ngohebiaeth yr Arlywydd Wilson a'r Caisar sonir am "Ryddid y Moroedd," ond gan nad beth a feddyliai yr Arlywydd wrth y