Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD II.

DYLANWADAU BOREU OES.

PENDERFYNWYD cwrs bywyd Mr. Lloyd George gan amgylchfyd ei febyd. Mab y pentref Cymreig yw—er iddo gael ei eni yn Lloegr (Manchester). Yn ol naturiaeth yn fab ysgolfeistr y pentref; drwy fabwysiad yn fab crydd y pentref; mewn credo wleidyddol yn fab cenedlaetholwr y pentref; o ran ei ddaliadau crefyddol yn blentyn y symlaf o gapeli'r pentref; yn mhob dim hanfodol i'w dyfiant a ffurfiad ei gymeriad, cynyrch y pentref Cymreig yw y gwladweinydd byd-enwog; ond y pentref a fu erioed yn asgwrn cefn gallu Prydain Fawr ar for a thir, mewn llys ac mewn dysg; a'r pentref sydd heddyw yn gyru'r gwaed bywiol yn ffrwd gynes drwy wythienau Ymneillduaeth Cymru, Y boreuaf o'r dylanwadau a luniasant gwrs dyfodol ei fywyd, oedd eiddo'r fam—y fam a anwylwyd ganddo hyd ei bedd, y fam a wnaed yn weddw pan nad oedd ef ond tair blwydd oed, y fam a brofwyd mor llym ac a fendithiwyd mor helaeth. Ceid yn Mrs. George holl geinder delfrydol cymeriad mam dda, fel hefyd y cafodd ei gwr hi yn ymgeledd gymwys dros gyfnod byr ond hapus eu bywyd priodasol. Yr oedd hi yn un o'r cymeriadau prydferth, ond prin hyny