Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Felly, pan yn blentyn pum mlwydd oed, gwelodd Lloyd George wyrth yr Adfywiad yn Nghymru, drwy yr hwn am y tro cyntaf, y gwnaed Ymneillduaeth Gymreig a Chenedlaetholdeb Cymreig yn eiriau cyfystyr, pob un o'r ddau yn cael ei ysbrydoli gan yr un amcan, ac wedi ymgyflwyno i'r un genadaeth fawr-dyrchafu gwerin Cymru. Yn nyddiau mebyd Lloyd George ysgydwid esgyrn sychion Ymneillduaeth wleidyddol oeddent wedi gorwedd yn dawel yn nyffryn darostyngiad er dyddiau Walter Cradoc a Vavasor Powell ddau can mlynedd cynt. Yr oedd llef y pwlpud fel sain udgorn yn galw asgwrn at ei asgwrn; giau a roddwyd arnynt, a'r cig a gyfododd arnynt, a chyflawnwyd y wyrth pan anadlodd ysbryd Cenedlaetholdeb arnynt, ac y buont fyw, ac a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn. A'r llu adgyfodedig a feddianodd y dwthwn hwnw wersyll y Philistiaid yn nghynrychiolaeth Seneddol Cymru, ac Ymneillduaeth sydd yn dal y gynrychiolaeth hono hyd y dydd hwn.

Henry Richard, y gweinidog Annibynol, mab Ebenezer Richard, y gweinidog Methodistaidd o Dregaron. oedd y gwr a arweiniodd genedl y Cymry o Dy y Caethiwed. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros Ferthyr Tydfil. Efe a roddodd am y tro cyntaf erioed lais i Ymneillduaeth Cymru yn Nhy'r Cyffredin yn 1868, a Lloyd George y pryd hwnw yn bum mlwydd oed. Gwan ar y cyntaf oedd cyffroadau cenedlaetholdeb yn enaid Henry Richard, ond cyn hir cynyddodd, a deuai gryfach gryfach fel yr elai ei gorff yn wanach gwanach. Cefais y fraint o gynorthwyo dadblygiad yr