Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Guards Cymreig, a gosodwyd hi ar yr un tir a'r Batal— iynau Cenedlaethol o eiddo cenedloedd eraill Prydain; a bod Byddin Gymreig o dan lywyddiaeth swyddogion yn medru siarad Cymraeg, wedi cael ei chodi, ac iddi ran mor bendant yn yr Armagedon fawr ag a roddwyd i fwawyr Cymru yn mrwydrau mawr Cresi a Poitiers. Yn ol rhif ei phoblogaeth, cynygiodd mwy o drigolion Cymru eu gwasanaeth yn wirfoddol i'r fyddin nag a wnaeth un rhan arall o'r deyrnas. Er y gall hyn oll borthi balchder y genedl, eto i gyd o safbwynt Cenedlaethol, nid yw ond cynauaf teneu iawn i'w fedi ar ol chwarter canrif o waith yn y Senedd, a naw mlynedd yn y Cabinet, i wr fel Lloyd George, uchelgais yr hwn oedd bod yn arweinydd cenedl y Cymry, ac Apostol Heddwch Prydain.

Cyfranogodd ei ganlynwyr o'i ysbryd milwriaethus a'i ddyhead am ryddhau Cymru o hualau llywodraeth y Sais. Grisialwyd yr ysbryd hwn yn ffurf "Rhyfelgan Lloyd George" a ganwyd yn mhob etholiad gyda brwdfrydedd mawr:—

"Hurrah! Hurrah! We're ready for the fray!
Hurrah! Hurrah! We'll drive Sir John away!
The 'Grand Young Man' will triumph,
Lloyd George will win the day—
Fight for the Freedom of Cambria!"

Cenid y geiriau hyn ar yr Alaw Americanaidd adnabyddus "Marching through Georgia" a rhyfedd yr effaith a gaffai bob amser ar y dorf.

Er mor aiddgar dros Ymreolaeth i Gymru, ni bu Lloyd George yn selog dros Ymreolaeth i'r Werddon. Gellir canfod hyny yn y dyfyniadau a roddwyd eisoes