Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD IV.

DYDDIAU'R YMDRECH.

MAE llawer mwy o ramant yn newisiad ac etholiad y cyfreithiwr ieuanc o Griccieth i fod yn Aelod Seneddol dros Fwrdeisdrefi Arfon, nag y sydd yn y ffaith fod Arweinydd y Blaid Gymreig wedi myned yn Weinidog y Goron yn y Cabinet. Mwy o lawer oedd y cam cyntaf na'r ail. Daeth ef o'r lle a ddesgrifir ganddo fel "y plwyf Toriaidd duaf yn y wlad." Mor gryf oedd yr hen oruchwyliaeth yno fel y dywedir mai ei ewythr, yn nghoty yr hwn y'i magwyd ef, oedd "yr unig Ryddfrydwr yn y pentref." Ac eto i gyd o'r pentref ac o'r plwyf hwnw y daeth y llanc Dafydd hwn allan i ymladd gornest hyd farw yn erbyn y Sgweier, gair yr hwn oedd yn ddeddf yn myd plentyndod Lloyd George. Brwydr ydoedd yn wir rhwng Dafydd a Goliath yr oes a'r wlad. Nid fod ei wrthwynebydd, Mr. (yn awr Syr Hugh) Ellis Nanney ei hun yn Philistiad rheibus gormesol; ond cynrychiolai, yn ei ymgeisiaeth, holl ormes y Philistiaeth hwnw y gwrth- ryfelodd Ymneillduaeth Cymru i'w erbyn.

Hynod, i ddechreu, oedd y ffaith i Mr. Lloyd George gael ei ddewis fel ymgeisydd Rhyddfrydol o gwbl. Ni feddai ddim a'i cymeradwyai i arweinwyr y Blaid