Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mwrdeisdrefi Fflint. Aeth Mrs. Lloyd George gyda'i phriod i'r depot yn Nghaernarfon. Wedi iddo ef fyned ymaith, a thra yr oedd hi, ac ychydig gyfeillion yn sefyll yn siarad ar y platform, yn aros tren arall iddi fyned adref, dygwyddodd i'r ymgeisydd Toriaidd, Mr. Ellis Nanney, ddod yno i gyfarfod y tren hwnw oedd yn myned tua'i gartref ef a chartref Mrs. Lloyd George yn Nghriccieth. Daeth tyrfa fawr o wehilion y dref gydag ef i'r platform, gan waeddi ac ysgrechian fel Indiaid Cochion, a llawer o honynt yn fwy na haner meddw. Pan welsant Mrs. Lloyd George, rhuthrodd haid o honynt yn wyllt tuag ati i ymosod arni. Gwelsom ei pherygl mewn pryd, gwthiasom hi i mewn i'r Parcel Office yn y depot, gan sefyll yn gylch o'r tu allan i'r drws i'w hamddiffyn. Cymellodd awdurdodau y rheilffordd hi i beidio teithio gyda'r un tren a Mr. Ellis Nanney rhag ofn ymosodiadau pellach. Yn cael ei hamgylchu gan nifer o gyfeillion, aethym a hi i'm ty, ac yno y bu nes i'r twrw yn y dref beidio, a chyda'r nos aethom a hi yn ddirgel drachefn i'r depot, ac aeth adref yn ddiangol. Pan ddeallodd y roughs yn y depot fod Mrs. Lloyd George wedi dianc o'u dwylaw, bwriasant eu llid ar Mr. J. R. Hughes, aelod blaenllaw o bwyllgor Mr. Lloyd George, oedd yn y depot. Er mwyn amddiffyn Mr. Hughes rhag cael ei ladd gan y roughs gwallgof, cadwodd awdurdodau'r rheilffordd ef am oriau wedi ei gloi mewn ystafell yn y depot lle na fedrai'r dorf ddod ato. Aml i ddygwyddiad cyffelyb a fu yn y dyddiau cynyrfus hyny.