Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

reig, benderfyniad yn amlygu "argyhoeddiad nas gall y Llywodraeth, o dan yr amgylchiadau gwleidyddol presenol, byth obeithio cyflawnu yr addewid hon, heb iddynt gyfnewid eu program."

Ffromodd Lloyd George yn aruthr at holl agwedd Arglwydd Rosebery tuag at Gymru. Yr oedd Rosebery wedi son am y Cymry fel "brodorion y Dywysogaeth." Ebe Lloyd George:

"Sonia Arglwydd Rosebery am genedl y Cymry fel pe baem lwyth o Walabees yn nghanolbarth Affrica. Twyllodd Stanley frodorion Affrica drwy roi 'jampots' gwag iddynt yn gyfnewid am eu gwasanaeth. Dyna a fu erioed bolisi Llywodraeth Ryddfrydol tuag at Gymru, rhoi i ni y 'jam-pots' gwag ar ol i bobl eraill gymeryd y 'jam' i gyd o honynt."

Rhaid, ebe Lloyd George, i Gymru gael jam pots llawn, neu ynte byddai iddi wneyd ei gwaethaf yn erbyn y Llywodraeth. Ebe fe:

"Ein bwriad yw cael Plaid Gymreig at amcanion cenedlaethol. Cewch weled hyn wedi dod yn ffaith ar ol yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Mae'r syniad o genedlaetholdeb yn gryf ac yn tyfu yn ein plith. Fel plaid unol byddwn yn gallu sicrhau fod y Blaid Ryddfrydol yn talu sylw buan i'n gofynion; a gyda hyny byddwn yn gallu 'gwasgu' ffafrau oddiwrth y Toriaid pan font hwy yn dal swydd."

Ond, Ow! mor frau yw gobaith dyn! Ni ddaeth y "Blaid Annibynol Gymreig" byth yn sylwedd. Ffleiriodd y "Gwrthryfel" allan. Mewn cyfarfod mawr yn Nghaerdydd derbyniodd Arglwydd Rosebery y pedwar Mab Afradlon yn ol i'w freichiau. Y flwyddyn ganlynol (1895) darllenwyd Mesur Cymru yr ail waith yn Nhy'r Cyffredin, a hyny yn briodol iawn ar Ddydd Ffwl Ebrill. Yn mis Awst y flwyddyn hono, pan oedd Lloyd George a'i gyfeillion yn cydgynllunio mesurau.