Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y rhenir y Ty arno. Rhaid clirio'r ystafell yn llwyr, ac ni chaniateir i neb o'r aelodau aros yn ei le, rhaid myned i'r "Division Lobby." Mae gwrthod pleidleisio yn weithred bendant o wrthryfel, ac ni ellir cyfrif y pleidleisiau os erys cymaint ag un o'r aelodau yn yr ystafell heb fyned i'r Lobby. Gan wybod hyn, a chyda'r bwriad pwyllog o godi row yn y Ty, eisteddodd Lloyd George yn ei le yn yr ystafell pan ganodd.

clychau'r rhaniad yn galw pawb i'r Lobby i bleidleisio. Eisteddodd Mr. Herbert Lewis, ei gyfaill cywir, wrth ei ochr; a phan welsant hyn, wele dri o'r Aelodau Gwyddelig—Mr. Dillon, Dr. Tanner, a Mr. Sullivan— hwythau fel pob Gwyddel yn hoffi cymeryd rhan mewn row, yn troi yn ol ac eistedd gyda'r ddau Gymro. Felly, dyma bump o aelodau yn herio'r chwe chant arall!

O dan y cyfryw amgylchiadau rhaid oedd galw'r Llefarydd yn ol i'r Gadair i alw'r troseddwyr i gyfrif. Gofynodd y Llefarydd (Mr. Gully) am eglurhad y pump. Cododd Lloyd George i ateb drostynt, gan ddweyd:

"Yr wyf yn gwrthod pleidleisio, fel gwrthdystiad yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn mynu cau y ddadl heb ganiatau amser digonol i drafod mater pwysig o drethiant."

Yna, yn ol rheolau'r Ty, wele Mr. Balfour, ar ran y Llywodraeth, yn codi ar ei draed ac yn cynyg fod y pump gwrthryfelwr yn cael "eu cadw yn ol o gymundeb" am wythnos; hyny yw, eu cau allan o'r Ty am hyny o amser. Felly y gwnaed. Cafodd Lloyd George a Herbert Lewis wythnos o wyliau ar ganol