Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhanau o'r Corff (Fanny Edwards).pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHANAU O'R CORFF.[1]

MAE genyf ddau lygad i weled yn glir,
Dwy glust i glywed ar fôr a thir;
Dwy ffroen i arogli y blodau bob amser,
Dwy lin i blygu er d'weyd fy mhader;
Dwy fraich a dwy law i sgrifenu'n awr,
Wnant hefyd i weithio pan ddof yn fawr ;
Dwy res o ddanedd, gên, a dwy foch,
Dwy ysgwydd, gwddf, a dwy wefus goch;
Dwy ffêr, dau sawdl, dwy goes, a dau droed,
Ni fu eu rhagorach gan neb erioed;
Ac ond cau fy nwylaw, bydd genyf ddau ddwrn,
Eto yn ymyl y mae fy nau arddwrn ;
A dau benelin heb fod yn mhell,
Na raid o gwbl ddymuno eu gwell;
Hefyd, ugain o fysedd a roddwyd i mi,
Ac wrth dd'od i'r ysgol mi ddysgaf eu cyfri'.
Cymaint o bethau gefais gan Dduw,
Diolchaf am danynt tra byddaf byw.

——FANNY EDWARDS.


Allan o Y Cenad Hedd, Cyf. XXX rhif. 358 - Hydref 1910, tudalen 320.
Argraffwyd gan Swyddfa'r Tyst a'r Dydd, Merthyr Tydfil.

  1. Rhannau o'r corff