Tudalen:Rhobat Wyn.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

COELIO BLODYN[1]

RHYW eneth brudd ac unig
Sydd yma, flodeuyn bach;
Claf yw fy mron anniddig,
Ac ni fedraf fod yn
Mae'n wir i Dai ei hunan
Un hwyrnos ar lan y lli iach;
Wneud llw yng ngŵydd y lloergan,
Ei fod yn fy ngharu i.

A ydyw Dai yn fy ngharu?
Dywed y gwir i mi—
A ydyw Dai yn fy ngharu?
Ydi—nagydi—ydi— nagydi—
Ydi— nagydi—ydi—nagydi.

O gwae i mi o'th holi
A'th ddryllio fel hyn, fel hyn
I ddim—ddim ond i brofi
Peth chwerw, flodeuyn gwyn
Rhaid imi'n awr dy guddio
Yn dyner o dan y pridd, R
hyw ddiwrnod cei godi eto
I wenu'n dlws ar y ffridd.

Nid ydyw Dai yn fy ngharu!
Dywed y gwir i mi—
A ydyw Dai yn fy ngharu?
Ydi—nagydi—ydi—nagydi—
Ydi—nagydi—ydi—nagydi.


  1. Hen draddodiad gan ferched i bennu os yw hogyn yn ei charu neu dim oedd tynnu petalau o flodyn llygad y dydd gan adrodd "ydi-nag ydi" wrth dynnu'r petalau pob yn un. Y petal olaf i'w dynnu byddai'n rhoi'r ateb terfynol.