Tudalen:Rhobat Wyn.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

CYHOEDDIR y llyfr hwn er cof am fy mrawd ieuengaf a aeth allan i'r môr mewn llong hwyliau cyn cyrraedd ohono ei bymtheg oed.

Fel cannoedd eraill o fechgyn Cymru, dringodd o ris i ris; bu'n gapten am yr un cwmni am lawer blwyddyn ar rai o longau'r Cunard.

Yn 1927 cafodd ei benodi gan yn brif oruchwyliwr y porthladd yn Lerpwl. Daliodd y swydd hon hyd ei farw ym Mai 1942. Teimlaf mai teilwng ydyw imi roddi ar gof a chadw y geiriau a sgrifennwyd gan gydweithwyr ar dorch o flodau : "A small Tribute to a great Chief."

Hefyd, bum yn awyddus ers tro i gael y gerdd dafodiaith: "Rhobat Wyn" mewn llyfryn hylaw, am fod amryw o'r adroddwyr, o dro i dro wedi gyrru atafi holi am gopi ohoni. Daeth y gerdd hon allan yn gydradd orau yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1926, dan feirniadaeth Wil Ifan ac R. Williams-Parry. Tua 1930, cefais ganiatâd Cymdeithas yr Eisteddfod i'w chyhoeddi. Oedais hyd yn hyn. Y mae bron y cwbl o gynnwys y llyfr wedi ymddangos o'r blaen mewn rhyw bapur neu'i gilydd. Modd bynnag, drwy hel yr ychydig hyn at ei gilydd, gobeithiaf y gwnaf ryw fymryn o wasanaeth i werin eisteddfodau a chyngherddau cefn gwlad; ac iddynt hwy yn syml y cyflwynaf y llyfr.

A.R.