Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

G. Pwy sydd yu chwareu ar y Sabboth?

A. Plant drwg.

G. A raid i bawb farw?

A. Rhaid.

G. I ba le yr a plant drwg ar ol marw?

A. I uffern.

G. Pa fath le ydyw ufern?

A. Llyn yn llosgi o dan a brwmastan

G. Pwy ddichon warede plant rhag myned yno.

A. Iesu Grist.

G. Pa fath ydyw plant da?

A. Rhai yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrwg.

G. Pwy sy'n hoff o'u llyfr?

A. Plant da.

G. Pwy sy'n ufudd i'w rhieni?

A. Plant da.

G. A ddylech chwi oll fod yn blant da?

A. Dylem.