RHAGAIR
NI allaf lai na theimlo bod teitl y llyfr hwn yn llawer mwy uchelgeisiol nag a deilynga ei gynnwys. Y mae'r teitl mor gynhwysfawr tra nad yw'r llyfr yn ymwneud ond ag agweddau arbennig ar y testun. Nid oes dim ynddo am ryfeddodau bywyd, y meddwl a'r teimladau, gan fod y pethau hyn y tu allan i gylch fy astudiaeth fanwl i.
Ond fe ddelia rhan helaeth o'r llyfr â materion sydd yn tynnu sylw mawr y dyddiau hyn. Ceir digon o lyfrau rhagorol ar faterion cyffelyb yn yr iaith Saesneg, megis llyfrau Jeans, Eddington, Lodge ac eraill. Ond ychydig iawn sydd wedi ei ysgrifennu ar faterion gwyddonol yn yr iaith Gymraeg. Gwneuthum ymdrech yn y cyfeiriad hwn rai blynyddoedd yn ôl mewn dau lyfr bychan.[1] Ond yn y cyfamser gwnaethpwyd darganfyddiadau pwysig iawn mewn llawer cyfeiriad, ac yn arbennig ym myd Mater ac ym myd y Sêr. Effeithia'r darganfyddiadau hyn yn fawr ar ein syniadau am y Greadigaeth, ac fe wneir ymdrech yn y llyfr bychan hwn i roi braslun, mewn iaith seml, o'r syniadau newyddion a diddorol hyn. Credaf y bydd yr ysgrifau yn eithaf dealladwy i rai heb ganddynt ddim gwybodaeth wyddonol yn flaenorol.
Yn yr ail ran o'r llyfr traethir ar Sŵn a Sain yr egwyddorion gwyddonol hynny sydd wrth wraidd Celfyddyd Cerddoriaeth.
- ↑ Athroniaeth Pethau Cyffredin (1907). Cwrr y Llen (1914) Gwêl hefyd " Seryddiaeth a Seryddwyr" gan J. Silas Evans (1923) ac "Y Bydoedd Uwchben " gan Caradoc Mills.