Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VII

MATER—BETH YDYW?

iii. Radium a'i Wersi

Un o'r elfennau hynotaf a phwysicaf ar un ystyr ydyw radium, a ddarganfuwyd yn 1896 gan Madame Curie. Gorwedd ei bwysigrwydd mewn dau beth. (1) Defnyddir radium gan y meddygon i leihau effeithiau enbyd y gelyn cancr. (2) Trwy radium a'i briodoleddau rhyfedd yr ydym i fesur mawr wedi ennill y wybodaeth sydd gennym am gyfansoddiad yr atomau. Priodol gan hynny yw dweud rhyw gymaint amdano.

Metel drud a gwerthfawr yw radium; nid oes ond rhyw dair neu bedair owns ohono ar gael hyd yn hyn. Y mae ei atom yn drwm, 226 o weithiau yn drymach nag atom hydrogen. Ac yn y modd canlynol yr adeiledir ef: Yn ei ganolbwynt ceir cnewyllyn yn gynwysedig o 226 proton a 138 electron, ac yna haid o 88 o electronau yn troi o amgylch y cnewyllyn. Nid oes, wrth gwrs, ddim byd hynod yn hyn. Gorwedd hynodrwydd radium yn y ffaith fod ei atomau, am ryw reswm dirgel, o bryd i bryd yn ffrwydro gyda ffyrnigrwydd a grymuster angerddol gan saethu allan o'r cnewyllyn dri math o belydrau a adnabyddir wrth yr enwau pelydrau alpha, beta a gamma. Math o donnau trydanol yw'r olaf, tebyg i'r pelydrau X a ddarganfuwyd gan Roentgen. Llif o electronau yw'r pelydrau beta. Ond y mwyaf pwysig yw'r pelydrau